Tudalen:Yn y Wlad.pdf/92

Gwirwyd y dudalen hon

IX
O DDINAS DINLLE I BEN CARMEL

NA feddylied y darllennydd mwyn fy mod yn cychwyn taith o lannau môr Arfon hyd y fan y chwery tonnau mân Môr y Canoldir ar odrau creigiog Mynydd Carmel. Nid yw fy nhaith fechan i ond taith troed; ac nid yw'n bedair milltir o hyd; pe medrwn ei chymeryd fel yr ehed y fran.

Ac eto, wrth deithio pedair milltir o lan bau Caernarfon i bentref Carmel, dros wlad wastad ac i fyny'r bryn, cymer y meddwl deithiau hirfaith iawn. Ar lan y môr saif hen grug Dinas Dinlle, Bryncyn yn sefyll rhwng gwastadedd tawel y tir a gwastadedd aflonydd y môr; a blwyddyn ar ol blwyddyn y mae'r môr yn ei ysu; ac megis yn dweyd, "Y mae Caer Aranrhod yma dan fy nhonnau, deui dithau yma cyn bo hir; feallai y byddi fil o flynyddoedd cyn dod, ond yma y doi." Hawdd dychmygu amser na ddeuai'r môr yn agos at Ddinas Dinlle, ac yr oedd Caer Aranrhod i'w gweld ar y gwastadedd sy'n awr dan donnau'r môr; ond yr adeg honno y gaer oedd ar fin y lli, a'r Ddinas bedair milltir dda oddiwrtho. A dyma fi, ar nawn yn Ebrill, 1913, wrth adael y Ddinas a sŵn y don o'm hol, yn cofio hen fabinogi Math fab Mathonwy. Gwelwn y swynwr Gwydion fab Don, a'r gwas ieuanc Llew Llaw Gyfles, yn dod feirch o'r arfordir ac Gefn Clydno i fyny tua Bryn Arien, ac yn cyrchu porth Caer Aranrhod yn rhith dau was ieuanc. Yr oedd pryd Gwydion yn