Tudalen:Yn y Wlad.pdf/93

Gwirwyd y dudalen hon

bruddach na phryd ei gydymaith ieuanc, oherwydd yr oedd ei feddwl ar rith a thwyll. "Y porthor," eb ef, "dos i mewn, a dywed fod yma feirdd o Forgannwg." Ac yna cawn ddifyrrwch y llys, a'r ymneilltuo i gysgu, a thwrf llongau hud o gylch y gaer yn y bore, ac Aranrhod yn gorchymyn rhoi arfau i Llew Llaw Gyffes.

Y mae'r hanes yn orlawn o atgofion am hen ddyddiau paganiaeth. Ond mor bell ydyw heddyw! Wrth i mi deithio hyd y ffordd wastad, ni wyr yr un chwarelwr a'm cyferfydd lle mae Bryn Arien na Chefn Clydno. Ond gŵyr pob un am Garmel. Y mae'r hen Dduwiau wedi diflannu o'r wlad mor llwyr fel na wyddir enwau ond ychydig ohonynt, ac y mae Duw Elias wedi cymeryd eu lle. Mae Caer Aranrhod dan y môr, mae Dinas Dinlle'n unig, ond y mae pentref Carmel a'i gapeli yn llawn bywyd a meddwl. O'm hol, y mae olion bore hanes ein cenedl, a'r môr yn chware yn ei rwysg drostynt; o'm blaen y mae bywyd y dydd heddyw, a diwygiadau crefyddol diweddar wedi rhoddi enw a chymeriad iddo, yn sefyll ar fryn.

Dechreuais synfyfyrio ar ddau ben y daith, Dinas Dinlle a Charmel, cartref yr hen baganiaeth a chartref crefydd heddyw, ac ar hyd holl hanes Cymru rhyngddynt,—hanes y gwelwyd rhai o'i olygfeydd mwyaf cyffrous o fewn cylch y mynyddoedd ardderchog sydd o'm blaen. Ond deffrowyd fi o'm breuddwyd, a galwyd fi o wyll yr hen amseroedd i Gymru newydd, gan sŵn y tren. Yr oeddwn wedi teithio dwy filltir, ac yn dod dan y ffordd haearn i bentref y Groeslon. Y mae hwn ar fin y gwastadedd ac ar ochr bryn. Dringais hyd y ffordd sy'n arwain i fyny drwyddo. Syllwn ar ambell enw tŷ,— "Angorfa," yr oedd llun llong y tu mewn, cartref