Tudalen:Yn y Wlad.pdf/94

Gwirwyd y dudalen hon

morwr mae'n ddiau; "Goleufan," a llu o enwau Cymreig tlysion eraill; a themtid fi i ddyfalu pa fath bobl oedd yn byw ymhob un. Codwn i fyny'n gyflym ar hyd y ffordd serth, a chyn hir daeth llaweroedd o chwarelwyr i'm cyfarfod ar y ffordd adref o'u gwaith. Mwyn oedd sylwi ar eu hwynebau deallgar; a da oedd gennyf weled, gydag ambell eithriad curiedig, eu bod yn bobl iach. Clywais droeon fod plant ardaloedd y chwareli yn hyfion, Ond nid felly y mae ar y ffordd hon, beth bynnag. Plant bach boneddigaidd gyfarfyddais i, parod eu hateb, ond hollol foesgar.

Ond wedi dringo'n uchel, gadewch i ni edrych yn ol. Mae bryniau fel cylch eang o'n cwmpas, a chlog teneu o niwl wedi ei daflu'n esgeulus drostynt, fel gorchudd yn hanner dangos wyneb hawddgar. Y mae'n dewach ar y gwastadedd, y mae yn ei guddio fel na welir lle mae'r tir yn darfod a'r môr yn dechre. A phan welwch ambell lecyn trwy'r niwl, ni wyddoch prun ai perllanoedd dan flagur cyntaf y gwanwyn ydyw, ai corsdiroedd brwynog, ai tywod anial. Y mae'r niwl yn araf godi dros y mynyddoedd a'r môr hefyd, ond nid yw'n eu cuddio eto. Wele ymylon Môn, gwelaf afon Menai, a Niwbwrch y tu hwnt, a mynyddoedd Caergybi ymhell ar y gorwel. Ac mor hyfryd yw'r môr! Y mae rhyw fynydd yn sefyll i fyny o'r niwl odditanom, yn fygythiol a du; uwch ei ben y mae'r haul yn y cymylau, ac y mae'r cymylau mor ardderchog a phe baent yn cynnwys holl Dduwiau'r Celtiaid mewn nefoedd o'u mewn. Ac fel y machludai'r haul dros orwel y môr, yr oedd ffordd goch o dân yn arwain ar draws y tonnau dros Gaer Aranrhod i'r pellteroedd dieithr. Yr oedd lliwiau mwy gogoneddus uwchben Dinas Dinlle nag y dychmygodd