Tudalen:Yn y Wlad.pdf/95

Gwirwyd y dudalen hon

Titian a Reubens am danynt. Ond ar y môr yr oedd y lliwiau i gyd. Yr oedd y tir isel dan niwl llwyd.

Yr oedd yr eithin ar y bryniau o amgylch y ffordd fel fflamau o dân. Ond ni welais un blodyn arall. Ar bob trofa yr oedd tŷ cysurus, ac ambell hafn o laswellt yn agor i'r ffordd. Ond ffordd i fyny i fynydd noethlwm oedd, ac o'r diwedd cyrhaeddais bentref Carmel. Dywedodd gŵr diddan parablus wrthyf, ond i mi frysio, y cyrhaeddwn ben mynydd Carmel mewn pryd i weled Eryri a'r Eifl yn eu gogoniant cyn i niwl yr hwyr eu cuddio.

Prysurais innau a daethum at ddwy wal gyfochrog yn arwain at gapel ar fin y mynydd. Meddyliais i ddechre mai dau ddwbl un wal oeddynt ; ond, wedi dod i'w hymyl, gwelais fod llwybr cul rhyngddynt. Ni all ond y saint teneuon fynd ar hyd-ddo, rhaid i'r rhai graenus gymeryd cylch. Ac ni allai'r un dau fynd ar unwaith felly rhaid fod y rhai cyntaf yn cychwyn yn gynnar iawn, neu fod y rhai olaf yn bur hir yn cyrraedd drws y capel.

Os troir y wyneb yn ol oddiwrth y capel heb enw arno ar fin y mynydd, gwelir cylch o fynyddoedd na all Cymru na Lloegr ddangos eu tebig. yn codi yn y niwl, o Benmon i Lanaelhaearn. Cychwynnais wedyn i fyny'r mynydd byrwellt. Wrth fynd clywn alw'r chwarelwyr i addoliad noson waith. I ddechre daeth sŵn melys cloch, sŵn ymbilgar erfyniol, o rywle pell; ac yn union wedyn sŵn wylofus bygythiol cloch drom yn union oddi tanaf.

Dros gloddfa'r Cilgwyn gwelwn yr Eifl yn dalpiau toredig drwy'r niwl. Wrth gyrraedd pen Mynydd Carmel, tybiwn nad oedd holl swyn mynydd yma ond cri cornchwiglen. Gyda'r meddwl hwnnw, clywn sŵn yr aderyn. Na, dau blentyn direidus