Tudalen:Yn y Wlad.pdf/99

Gwirwyd y dudalen hon

Oddiar bont Tryweryn cewch syniad am lun y Bala. Y mae ar ddull crwth trithant. Y llinyn canol yw'r Stryd Fawr; ar y chwith y mae Heol y Domen, ar y dde Heol Arennig; a'r bwa ar eu traws yw'r Stryd Fach. Croesa'r Stryd Fach Heol y Domen wrth y Groes Fach, a'r Stryd Fawr wrth y Groes Fawr. Deuant yn un drachefn ym mhen uchaf y dref. Nid yw'r Bala'n ganol plwy, canol pumplwy yw. Tyfodd o amgylch croesffordd. Y mae'n ddigon hen i'w siarter ganol oesol brotestio yn erbyn dyfodiad Iddewon iddi.

Ond cychwynnwn. Cyn dod at y lle y mae'r tair ffordd yn ymwahanu. gwelwn hen Green y Bala ar y chwith odditanom. Mae hen drigolion y fro yn cofio eto am ei thyrfaoedd gyda pharch a hiraeth.—

"Ein tadau gyda hwyl,
A pher hosannah,
Fel tyrfa i gadw gwyl
A gyrchent yma;
O na chaed eto'r fraint
O weled yn ei maint
Gymdeithas fawr y saint
Ar Green y Bala.

Prudd yw cyfaddef fod fy meddwl i, nid gyda saint, ond gyda lladron. Nid y cae gwyrdd hwn yn unig ddylai fod yn eiddo y cyhoedd heddyw. Na, y mae miloedd ar filoedd o aceri oedd yn eiddo i'r goron ddechre'r ganrif o'r blaen ym mhumplwy Penllyn, ond sydd erbyn heddyw wedi eu meddiannu gan wŷr mawr, yn unig oherwydd fod eu cymdogion yn dlodion ac anwybodus ac ofnus. Anfonwyd swyddog i chwilio'r hanes; cynghorodd yntau fod y ddau leidr mwyaf i roddi eu hysglyfaeth i fyny, fel y medrid gwerthu'r aceri meithion i'r