Tudalen:Yny lhyvyr hwnn.pdf/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

da iddo, a dyna i gyd a allwn ddweyd. Ond y mae yn digwydd fod Syr John ei hun, yn anfwriadol bid sicr, wedi rhoddi rhai awgrymiadau i ni yn ei lyfrau a'i lythyrau, ac er na fydd pawb, fe ddichon, yn dyfod i'r un casgliad a ninnau, byddwn yn ddigon hyf i draethu ein syniadau ar y pwnc.

Yn hoff o'i gartref.

Yn y flwyddyn 1540 yr oedd Prys yn byw mewn ty yn ninas Henffordd, ac yn dal lês dan y Brenin. Daeth y si fod Y Brenin yn bwriadu gwerthu'r ty, ac ysgrifennodd Prys ar unwaith at Cromwell i geisio ei brynnu:

ffor considering that I have alredy paid so moche for the fferme, been dwelling thereupon a good while and my children and part of my familie there yet remayning, and [have] buylded thereupon as moche as coste me a hundred markes. I had lever spend all that I have to my shirte than be putt beside it.

Ond fath dy oedd gan John Prys yn Henffordd? Yn ei ewyllys y mae yn gadael i'w wraig:

"That house where I now lie to dwell in as long as she be unmarried, and one of the orchardes, and a garden, and pasture for six "kine and a geldinge."

Syr John fel amaethwr

Ty, gardd, perllanau, lle i gadw chwech o wartheg ac un ceffyl; dyna gartref John Prys. Nid rhyfedd ei fod yn hoff o'r lle. Yma y byddai yn dianc o ganol ei waith yn Llundain i fwynhau ychydig seibiant, ac yma yn nhawelwch ei erddi ac yng nghysgod ei goed afalau, y deuai i anghofio helbulon y llys yn Llwydlo. A mwy na