2 Mair a'i chwaer Martha. (A Mair ydoedd yr hon a
enneiniodd yr Arglwydd âg ennaint, ac a sychodd ei
draed ef â'i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lazarus
3 yn glaf.) Am hynny y chwïorydd a ddanfonasant
atto ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae yr hwn
4 sydd hoff gennyt ti, yn glaf. A'r Iesu pan glybu, a
ddywedodd, Nid yw y clefyd hwn i farwolaeth, ond
er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw irwy
5 hynny. A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a'i chwaer
eithriadol a berthynai iddi. Nid oes sail i'r dyb fod Martha'n briod, ac mai Simon y gwahanglwyfus (Math. xxvi. 6; Marc xiv. 3) oedd ei gŵr ; nac ychwaith i'r dyb mai'r Simon hwn oedd tad y tri a phen y teulu.
2. A Mair ydoedd yr hon, &c. Os at yr amgylchiad a fu yn nhŷ Simon y Pharisead (Luc vii. 36—so) y cyfeirir yma, rhaid derbyn y casgliad, pa mor anhyfryd bynnag, mai Mair o Fethania oedd y wraig fuasai bechadures. Ond tebycach yw mai at yr amgylchiad yr adroddir ei hanes yn y bennod nesaf y cyfeirir. Gwir fod yr am- gylchiad hwnnw eto heb ddigwydd; ond naturiol oedd i Ioan ei gry- bwyll yma fel amgylchiad oedd eisoes yn hysbys. Felly diflanna'r unig rith o sail i'r gwarthnod a roddir gan rai ar gymeriad Mair o Feth- ania.
3- Wele, y mae yr hwn sydd hoíî gennyt ti, yn glaf. Yn llythrennol, “' Gwêl yr hwn a hoffi,—y mae yn glaf.” Hoffi”' (?/ilein), nid “caru” (agapên) yw'r gaìr yma: ond gweler ar adn. s. Ymfodlona'r chwiorydd ar ddatgan y ffaith, heb ychwanegu unrhyw ddeisyfiad mewn geiriau.
4. Nid yw y clefyd hwn i farwolaeth, &c. Ar yr wyneb, yr esbon- iad naturiol ar y geiriau hyn yw yr un cyffredin, sef bod yr Ar- glwydd Iesu eisoes wedi penderfynu atgyfodi Lazarus yn ebrwydd. Fel pe dywedasai, “' Gwir fod Lazarus i farw; ond nid dyna yw diwedd yr ystori i fod: yr wyf yn myned i'w atgyfodi, a thrwy hynny gogoneddir Duw a'i Fab.” Ond nid yw'r esboniad ar yr wyneb yr esboniad cywir bob amser. Gwelai'r Gwaredwr, os ai Ef i Fethania, yr arweiniai hynny'n ddiffael i'w farwolaeth EÍ ei Hun: ac felly Bys ei eiriau yma yw, '“ Nid marwolaeth Lazarus yw diben eithaf y clefyd hwn, ond gogoneddiad Duw a'i Fab yn fy angau I fy Hun.”
s. A hoff oedd gan (gwell, “A charai”) yr Iesu. Hoffter yn adn. 3, cariad yma. Caru” yw'r gair cryfaf. Cyfyd hoffter oddi ar