Ystrad Meurig. Yr oedd y gymdogaeth yn falch ohonynt, a hwythau yr un mor falch ohoni hithau.
Ond mae'r rhai hyn heddiw ? Am lawer ohonynt y garreg yn unig a etyb. Fel y cofiaf fod yn eu cwmni! Á phe medrai fy llaw ddilyn fy nghof tynnwn ddarlun cywir ohonynt y funud hon. Fel y carwn weled rhai ohonynt, a chael ymgom â hwynt am yr hen amser gynt. Bron nad wyf yn awr yma ar ben yr hen Drysgol yn eu gweled a'u clywed. Rhyngof a llawer ohonynt gwn nad yw'r llen ond tenau iawn, a'm bod yn agosach atynt nag at lawer o'r rhai sydd yn fyw. Gwn am un cyfoed a chyfaill sydd y tu hwnt i'r llen ers llawer blwyddyn, ac am un arall eto'n fyw, a theimlaf fod y cyfaill hwnt i'r llen yn agosach ataf na'r un sydd yr ochr yma i'r llen. Ni wn faint o gyfnewidiad sydd wedi dyfod dros y cyfaill byw, ond am y cyfaill marw dywed rhywbeth wrthyf ei fod ef yr un, a phe cyfarfyddwn ag ef yn awr ar ben y Drysgol, gwn mai'r ymgom a fyddai am yr hen amser gynt, a chryfha'r teimlad ynof y byddai yn well gennyf gyfarfod â'r hen gyfeillion y tu hwnt i'r llen na'r rhai sydd yr ochr yma. Fe fydd tragwyddoldeb yn hyfryd os cawn gyd-gyfarfod eto i fyned dros yr hen amser, a rhodio'r hen lwybrau mewn atgof. Nid oes gennyf amheuaeth fod tragwyddoldeb, a'u bod hwythau yn nhragwyddoldeb, a'u bod yn ymwybodol ohonom ni yr ochr yma i'r llen, fel yr ydym ninnau yn ymwybodol ohonynt hwythau yr ochr draw. Mi a ymdrechais wrando funud yn ôl â'm clust yn dynn wrth y llen, a thybiwn glywed sŵn a chanu, ac mai canu yr oeddynt "gân Moses a chân yr Oen". Er melysed yr atgofion a ddeuai o edrych ar yr hen lwybrau,
Daw diwedd yn ebrwydd ar bob rhyw berffeithrwydd
Ond cyfraith yr Arglwydd i'r dedwydd ŵr da.
Y mae'n hwyrhau, a'r dydd hapus hwn eto yn tynnu tua'r terfyn fel llawer un o'i flaen, a syrthni'r hwyr yn disgyn arnaf fel y gwnâi ar lawer un yn y dyddiau gynt, pan glywid,
Dolef y ddyhuddgloch yn oer ganu cnul y dydd,
o dŵr hen fynachlog Ystrad Fflur. Dua'r wybren tua Chraig-y-Foelallt, ac i bob ymddangosiad,
Mae'n bwrw 'Nghwmberwyn, a'r cysgod yn estyn,
Gwna heno fy mwthyn yn derfyn dy daith,
Cei fara cawl erfin iachusol, a chosyn,
A menyn o'r enwyn ar unwaith.