Caf innau y "bara cawl erfin iachusol a chosyn, a'r menyn o'r enwyn ar unwaith", a chwmni Edward Richard yn ei Fugeilgerddi, ac y maent lawn mor flasus â'r "bara cawl erfin".
Fore drannoeth, sef bore Sadwrn, yr oeddwn mor blygeiniol â'r hedydd, ac yn cychwyn o'r tŷ am saith o'r gloch. Yr oedd gennyf ddigon o amser i ddal y trên yn Strata Florida erbyn wyth o'r gloch. Nid oedd raid prysuro: cerdded wrth fy mhwysau a'm dygai mewn pryd i'r orsaf. Newydd dorri 'roedd y wawr, a'r deigryn eto ar ei grudd. Cerddais ymlaen ar fy mhen fy hunan yn gwbl ddibryder am y trên ond i mi'n unig beidio â sefyllian ar y ffordd. A chan ei bod mor fore nid oedd yn debygol y cyfarfyddwn â neb i arafu na phrysuro fy ngherddediad. Ar ôl y nos, dyma fore newydd eto, a phopeth ynddo yn newydd. Gwelwn y fuches yn gorwedd yn heddychol gan gnoi ei chil yn y caeau, ac yn gymysg â hi y defaid yr un mor heddychol. Codai ambell un yma a thraw i ysgwyd cwsg y nos o'u llygaid a gwlith y wawr oddi arnynt. Croesid y ffordd gan aderyn yn awr ac yn y man, ond yr oedd ei gân wedi distewi, a braidd yn fuan ydoedd hi eto i gantor yr hydref ddechrau tiwnio ei delyn. Gorffwysai rhyw ddistawrwydd santaidd ar yr holl fro. Fel y cerddai'r bore ymlaen casglai ei niwlenni teneuon ynghyd fel y briodasferch wisg ei phriodas, a gwyddwn fod hyn yn arwydd o ddiwrnod braf, ac felly y bu. Draw dacw Ystrad Fflur, a llenni llwydion y niwl yn ymddyrchafu i gyfeiriad Banc Pen-y-bannau a'u godreon wedi eu goleuo fel sidanwe'r pryf copyn. Unwaith neu ddwy disgynnodd cawod drom o wlith, "fel gwlith Hermon, yr hwn oedd yn disgyn ar fynyddoedd Seion". Tynnais fy het, a theimlwn ef yn rhedeg i lawr fel "yr ennaint ar ben Aaron, ac i lawr hyd ymyl ei wisgoedd".
Ond dyma dro yn y ffordd, a dyma'r garreg yr eisteddais arni lawer gwaith i aros hen gyfoedion, neu y prysurwn ati i'w goddiweddyd. Dyma hi yn yr un fan, ac yn yr un lle. A chan mor fyw oedd f'atgof, trois bron yn ddisymwth ac anymwybodol i edrych a welwn fy nghyfaill yn dyfod, a phan nas gwelais, tristeais yn fy meddwl. Faint a gerddwyd ar y ffordd hon! Cerddem hi bedair gwaith bob dydd, haf a gaeaf, oddigerth y gwyliau. Nid oedd un tywydd a'n lluddiai, ac nid oedd eisiau glaw-lenni'r oes honno. Digon i ni oedd