eu plith Elis o'r Nant. Ymwelai Elis yn fynych â'r Prifardd Pendant yn Heol Watling mewn ystafell fechan y tu cefn i'r siop, a'r hon a elwid ganddo yn sanctum sanctorum. Un arall o'r frawdoliaeth oedd Penfro. Unwaith bob blwyddyn cynhelid yr Arwest ar lawnt llyn Geirionydd, dan gysgod Colofn Taliesin Ben Beirdd, gyferbyn â Bryn y Caniadau. Gwilym Cowlyd oedd y Prifardd Pendant, Elis o'r Nant y Cofiadur, a Phenfro yn Fardd yr Orsedd. Ar y pererindodau i'r Arwest ac yn ôl, mwynhad digyffelyb oedd cael bod yng nghwmni'r Prifardd Pendant a'r Cofiadur. Yr oedd Gwilym yn ddifrifolwch hyd flaenion ei fysedd, ac yntau Elis yn byrlymu o ddireidi. Pennid arholwyr i brofi gwybodaeth ymgeiswyr am urddau'r Orsedd. Trosglwyddwyd y beirdd un flwyddyn i ofal Elis a minnau. Y rhai hyn oedd ddisgyblion ysbas, ac yr oedd yr arholiad yn ddigon hawdd. Gofynnid mwy gan y disgyblion cyfallwy. Eisteddwyd i lawr ar garreg droed Colofn Taliesin, a dechreuwyd ar yr arholiad. I'm rhan i y disgynnai eu holi yn y cynganeddion. Ymysg yr ymgeiswyr yr oedd crydd, wedi dyfod yr holl ffordd o Riwabon am urdd bardd, a gofynnodd am ganiatâd i wneud un sylw, a chaniatâwyd iddo gan y Cofiadur ar y telerau ei fod yn fyr ac i bwynt. Dywedodd mai crydd oedd wrth ei alwedigaeth, ac nad oedd ganddo amser i ddysgu'r cynganeddion. Holwyd ef yn ei alwedigaeth yn fanwl gan Elis, a hawliai weled esgid o'i waith cyn y gallai ei gymeradwyo i'r Prifardd Pendant. Dangosodd yntau yr esgid am ei droed, a gyfrifid gan Elis yn gystal ag englyn. Rhoddwyd iddo ysnoden las, a thrwydded i'r Cylch Cyfrin ar Fryn y Caniadau. Ar ei ymadawiad cynghorwyd ef gan Elis i gadw wrth ei last a gadael i'r cynganeddion fod, yr hyn yn ddiamau a wnaeth, oherwydd ni chlywyd byth sôn amdano wedyn, hyd y gwn i.
Un tro yr oeddem i gychwyn yn dra bore i Fryn y Caniadau i arolygu'r Meini Gwynion a'r Gwyngyll. Cyrhaeddwyd preswyl Gwilym oddeutu saith o'r gloch. Yno yr oedd Gwilym yn gwneud y darpariadau angenrheidiol, a'r Cofiadur yn trefnu rhestr yr ymgeiswyr, tra oedd Robin Un Llygad—rhyw fath o factotum i Gwilym—yn paratoi coginio bacwn, a berwi dwfr i wneud cwpanaid o goffi, ac yr oedd y bacwn a'r coffi am y duaf. Ni fynnai Elis am y byd gyfranogi o'r