IV
AWEL O'R DYDDIAU GYNT
MAWR oedd fy mwynhad pan anfonwyd fi ar neges i ffair yn Nhregaron a gynhelid yno rhwng y Nadolig a'r Calan, a mi ar y pryd o gwmpas deuddeg oed. Ac yr oeddwn i fynd ar fy mhen fy hun, ac arian yn fy mhoced i godi tocyn trên, ac ychydig geiniogau dros ben, a siars i beidio â gwario'r cwbl, a dychwelyd yn ddi-ffael gyda'r trên pump. Cychwynnais i'm gyrfa yn llon fy ysbryd, a chyrhaeddais Dregaron yn gynnar yn y prynhawn. Rhodiennais o amgylch y dref a oedd yn frith o stondinnau yn gwerthu pob math o nwyddau a moethau. Ar un stondin gwerthid bara sinsir gan hen wraig o Gaerfyrddin, a phrynais dipyn ohono. Ac ar stondin arall gwerthid cnau gan hen ŵr o odre'r wlad, a phrynais geiniogwerth neu ddwy ohonynt hwythau. Ar y sgwâr yr oedd Dic Dywyll, pen baledwr Cymru y dwthwn hwnnw, yn canu cerdd y Blotyn Du, a bwndel o gerddi dan ei gesail, ac yn eu gwerthu am geiniog yr un. Yr oedd mynd mawr ar y Blotyn Du, canys gofynnid iddo ei chanu drosodd a throsodd drachefn, a'r gwragedd a'r merched yn cael rhyw fwynhad rhyfedd wrth sychu eu dagrau a bwyta bara sinsir bob yn ail, ac nid oedd y dynion hwythau yn eu closau pen-glin yn rhyw wynebsych iawn; ac amlwg oedd bod llais y baledwr yn cyffwrdd â llinynnau tyneraf eu calon. Prynais ddwy neu dair o'r cerddi, ac yn enwedig gerdd y Blotyn Du, sydd yn fy meddiant heddiw. Cerddais oddi yno at werthwr almanaciau a thyrfa dda yn ei amgylchu. Gwaeddai ef "Almanaciau'r Miloedd dimeiau'r un' ', a phan estynnid iddo ddimai yn gyfnewid am almanac, ond na, nid dyna a ddywedai ef ond 'dimeiau'r un",—dwy ddimai, a thelid hwy heb omedd ond gan ambell hen gybydd. Prynais innau almanac.
Yn awr, a'r amser wedi mynd, gofynnais faint o'r gloch oedd hi i hen ŵr yn fy ymyl, a dywedodd ei bod wedi troi pedwar. Yr oedd yn bryd gwneud am yr orsaf, ond yr oedd yr arian wedi eu gwario bob ceiniog, ac ni feddyliais godi tocyn deuben wrth gychwyn. Arhosais ar bont Brennig yn