Ysgrifennydd; herciodd yntau at ddesg y dystiolaeth. Edrychodd y Cadeirydd yn graff arno, ac arfer Elis oedd estyn ei ên isaf allan gymaint ag a fedrai a chrinsian ei ddannedd gosod, ac arwydd oedd hynny fod ysbryd direidus wedi deffro ynddo. "Ai chwi", gofynnodd y Cadeirydd, "yw Mr. Ellis Pierce?" "Y mae'r Ysgrifennydd", oedd yr atebiad, "wedi dywedyd hynny".
"A oes gyda chwi wrthwynebiad i ddywedyd hynny eich hun?" gofynnodd y Cadeirydd, gan fod mor sobr ei olwg ag oedd modd.
Gyda hyn yr oedd Syr John Rhys yn ei ddwbl, a'i wyneb yn ei ddwylo, a'i gefn yn crynu dan effeithiau rhyw gynyrfiadau. Fe wyddai ef rywbeth am Elis.
"Nac oes un gwrthwynebiad os yw'n angenrheidiol i ddau ddwyn yr un dystiolaeth", oedd atebiad parod y tyst, a chaeai ei ddannedd.
"Cyn y gellir derbyn eich tystiolaeth rhaid yw i'r ddirprwyaeth wybod pwy a pheth ydych, ac o b'le'r ydych, a pha dystiolaeth sydd gennych i'w rhoi".
"I dynnu pen byr arni", meddai Elis yn araf, "myfi yw Elis o'r Nant".
"Pwy yw hwnnw ?" meddai'r Cadeirydd.
"Pwy !" meddai Elis, "pwy yw Elis o'r Nant !"
"Ie, pwy?".
Yn y fan hon pesychodd Syr John gymaint nes tynnu sylw'r Cadeirydd, a bron na chredaf iddo ddywedyd dan ei anadl, "My dear".
"Chlywsoch chwi ddim sôn am Elis o'r Nant?" gofynnodd Elis yn araf a phwysleisiol, gan edrych arno fel gwrthrych tosturi.
"Naddo", oedd yr ateb parod a phenderfynol.
"Wel", meddai Elis cyn baroted â hynny, ond yn bwyllog a thosturiol, "yr wyf yn synnu at eich anwybodaeth".
Hawdd y gallasai gŵr a ddisgyblwyd fel hyn edrych yn sarrug a dywedyd, "My dear" wrth un na chafodd y gyfryw ddisgyblaeth.
Erbyn hyn yr oedd y gwahoddedigion wedi cyrraedd ystafell y derbyn, a chanodd y tympan cinio.
Arhoswyd wrth y cadeiriau i ddisgwyl yr Arglwyddes i mewn A chyn gynted ag yr agorwyd y drws yr oedd ugain