Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/77

Gwirwyd y dudalen hon

XIII

YSGUB ETO O LOFFION

AR ôl i Wilym orffen adrodd ei stori am fuddugoliaeth y Nant a oedd fwy ei maint na hyd yn oed fuddugoliaeth Wellington ar faes Waterloo, yr oeddem wedi dyfod i ben y llwybr a redai yn gyfochrog â Dyffryn Conwy, ond yn droedfeddi lawer yn uwch. Yn y tro hwnnw bwriwyd un olwg ychwanegol dros un o ddyffrynnoedd prydferthaf Cymru. Yr oedd y dyffryn wedi ei ordoi â haenen denau o niwl, a chyn deneued â gorchudd y ddyweddi yn nydd ei phriodas, a thrwy'r gorchudd cyfriniol hwnnw, a guddiai ac a ddatguddiai, gwelem long dan hwyliau ar yr afon, a'r tir oddeutu yn symud i fyny, a chyn arafed â bysedd yr awrlais, a'r haul yn tywynnu ar yr olygfa onid oedd yn debyg i ymadawiad Arthur,—

A speck that bare the king
Down that long water opening on the deep
Somewhere far off, pass on and on, and go
From less to less and vanish into light.

Trowyd yma ar y chwith, ac yr oeddem allan o wres yr haul mewn coedwig fel mewn teml gyda'i cholofnau uchel a'i bwâu cyfriniol o ganghennau irion cyn ysgafned a theneued â Gwallt y Forwyn neu we'r pry copyn, ac yn gwau'n gyfrodedd trwy'i gilydd. Y llawr oedd garped rhwydwaith o fwsog ac eiddew gyda thusw yma ac acw o Sanau'r Gog yn frodwaith iddo. Arafwyd ein camau yma i fwynhau'r olygfa a'i hinsawdd dymherus. Ond dyna waedd oddi wrth un o'r cwmni, a gwelid gwiwer yn dringo'r goeden gan ysboncio i fyny, ac yn rhyw gip-edrych yn llygadlon yn awr ac yn y man ar y cwmni oddi tani, ac yn dyfalu beth oeddynt, a pheth oedd eu neges yn troseddu mor ddiseremoni fel hyn ar ei thiriogaeth hi. Amgylchai rhai y goeden, ond a amgylchwyd hi sydd broblem y rhaid i rifyddiaeth ei phenderfynu. Coediog iawn oedd Dyffryn Conwy yn nyddiau'r hen Farchog o Wydir a chyn hynny, ac mor goediog fel y gallai gwiwer gerdded brigau'r goedwig o Gonwy i Ddolwyddelan heb gymaint â disgyn unwaith.