Tudalen:Yr Hen Lwybrau.djvu/96

Gwirwyd y dudalen hon

XVII

JOHN FISHER, OFFEIRIAD

GWYN ei fyd y dyn nad oes iddo hanes. Dyn felly ydoedd ein gwrthrych. Ni wyddai Cymru fawr amdano, na hyd yn oed yr Eglwys yng Nghymru. Ac eto yn ystod y 40 mlynedd diwethaf ni fu un â gwybodaeth helaethach a chywirach o'i wlad ac eglwys ei wlad nag ef. Fe ellid ei basio ar yr heol, neu ar y ffordd, heb wneud fawr sylw ohono. Nid oedd dim mewn gwisg ac osgo yn ei wahaniaethu oddi wrth unrhyw un arall o'r un alwedigaeth ag ef, gan mor naturiol a diymhongar ydoedd. Enillodd y radd B.A. yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, ac anrhydeddwyd ef wedyn â D.Litt. gan Brifysgol Cymru, ac yr oedd yn F.S.A.

Heblaw bod yn rheithor Cefn, Llanelwy, yr ydoedd yn Ganon yn yr Eglwys Gadeiriol a Changhellor, a gwasanaethai fel Caplan ac Arholydd i'r Archesgob.

Gydag ef, y dyn oedd yn rhoddi anrhydedd ar y swydd, ac nid y swydd ar y dyn. Fe rydd swydd neu radd uchel anrhydedd ar ddyn, ond nid bob amser y rhydd dyn anrhydedd ar ei swydd neu ar ei radd. Gydag ef diflannai pob anrhydedd a swydd o'r golwg gan mor naturiol a diymhongar ydoedd.

Dyna'r cymeriad a ddychwelai o Amwythig, o fod mewn cyfarfod o'r Archaeologia Cambrensis yno, ddydd Sadwrn o Fai. Galwodd ar ei ffordd adref yn nhŷ ei frawd, y Parch. E. J. Fisher, rheithor Pontfadog, ger Wrecsam, ac yno'n sydyn y bu farw, ac ef ar y pryd yn 68 mlwydd oed.

Nid wyf yn meddwl y gŵyr fawr neb fwy na hyn amdano ar wahân i'w symudiadau yn Llanelwy a'r gwaith a adawodd ar ei ôl. A'r argraff a greir arnom yn awr yw i ddyn mor fawr fyw am gymaint o amser yn ein plith a ninnau yn gwybod cyn lleied amdano. Fe fu rhai mwy eu sŵn nag ef yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, ond a fu ei fwy sydd gwestiwn arall. Dyn a dyfodd yn araf ydoedd nes dyfod yr hen fedelwr i'w dorri i lawr.

Cawsom y fraint o'i adnabod ar hyd ei yrfa, o'r adeg y cyd-ymaelodasom yng Ngholeg Llanbedr hyd y diwedd.