Tudalen:Yr Hwiangerddi (O M Edwards).pdf/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

darllenwch ei cherddi hwian. Os ydynt yn greulon ac anonest eu hysbryd, yn arw a chras, yn fawlyd a di-chwaeth, rhaid i chwi ddarllen hanes cenedl yn meddu'r un nodweddion. Os ydynt yn felodaidd a thyner, a'r llawenydd afieithus yn ddiniwed, cewch genedl a'i llenyddiaeth yn ddiwylliedig a'i hanes yn glir oddi wrth waed gwirion. Nis gall y Cymro beidio bod a chlust at felodi, wedi clywed y gair "pedoli" bron yn gyntaf un, a hwn yn gyntaf pennill, -

"Mae gen i ebol melyn,
Yn codi'n bedair oed;
A phedair pedol arian,
O dan ei bedwar troed."

Disgwylir i mi ddweud, mae'n ddiau gennyf, ymhle y cefais yr holl gerddi hwian hyn. Gwaith araf oedd eu cael, bum yn eu casglu am dros ugain mlynedd. Ychydig genir yn yr un ardal, daw'r rhai hyn bron o bob ardal yng Nghymru. Cefais hwy oddi wrth rai ugeiniau o gyfeillion caredig, yn enwedig pan oeddwn yn olygydd Cymru'r Plant. A chefais un fantais fawr yng nghwrs fy addysg, - nid oes odid blentyn yng Nghymru y canwyd mwy o hwiangerddi iddo.

Hyd y gwn i; Ceiriog ddechreuodd gasglu hwiangerddi Cymru, yn yr Arweinydd, yn 1856 ac 1857. Condemnid y golygydd, Tegai, am gyhoeddi pethau mor blentynnaidd. Ond daeth yr hanesydd dysgedig Ab Ithel, oedd wedi cyhoeddi'r Gododdin ac yn paratoi'r Annales Cambriae y Brut y Tywysogion i'r wasg, i'w amddiffyn yn bybyr. Cawr o ddyn oedd Ab Ithel; y mae rhai o ŵyr galluocaf a mwyaf dysgedig