Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

a'u henwau, fe lychwinid awyrgylch cymydogaeth gyfan gan y drygsawr a gyfodai oddiwrth ou coffadwriaeth. Ond am WILLIAM ELLIS, gan ei fod yn gyfiawn,

"Ei enw 'n perarogli sydd,
A'i hûn mor dawel yw. "

Mae rhai dynion wedi anfarwoli eu coffadwriaeth trwy eu sylwadau cynnwysfawr a'u dywediadau pert. Fe wnaeth y diweddar Enoch Evans, o'r Bala, fwy i anfarwoli ei goffadwriaeth, trwy ryw un sylw pan ar ei wely angau, na phe buasai yn cael maen o farmor ar ei fedd. "Ni pherffeithir hwy hebom ninnau. "Gallent wneyd heb Enoch yn y Cyfarfod Misol, gallent wneyd heb Enoch yn Seiat y Bala,—ond nis gallent wneyd heb Enoch yn y nefoedd, oblegid ni pherffeithid hwynt heb Enoch. Cofir yn hir am y diweddar Robert Thomas, Llidiardau, fel awdwr y sylw pert hwnw, "Y ddaear a heneiddia fel dilledyn; ac ni welais i erioed gynt mae dillad yn myn'd. " A sylw yr hybarch Mr. Humphreys o'r Dyffryn, "Rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed; ac mi ddywedaf i chwi beth, fy mhobl i, nid aeth yr afradlon byth ar hyd yr hen Iwybrau ar ol iddo gael esgidiau newyddion. "Mae William Ellis wedi rhoddi bôd i lawer o sylwadau cyffelyb, fel y cawn ddangos eto; ac yn ei sylwadau y mae yn adnabyddus trwy y byd Methodistaidd yn gyffredinol.

Nis gallwn ddyweyd fod hynodrwydd yn perthyn i neb o henafiaid William Ellis : yn yr ystyr hwn yr oedd ar ei ben ei hun—heb dad, heb fam, heb achau. Ond gellir dyweyd am dano fel y dywedir am Elias y Thesbiad,— "Elias oedd ddyn. "Yr oedd yntau yn ddyn, ac yn ddyn hynod iawn; a phan y mae y Nefoedd yn myn'd i roi dyn