weliad ag ef, ac yr oedd defaid i WILLIAM ELLIS wedi tori i'w ddolydd ef. Gwelai Mr. Lloyd ei gymmydog yn gwneyd rhywbeth yn y cae gerllaw, a dywedodd wrth ei gyfeillion, "Mi af fi at y dyn acw i dynu ffrae arno, am fod ei ddefaid wedi tori dros y terfyn: ond," ychwanegai, "peidiwch chwi a chyffroi dim wrth fy nghlywed i yn llefaru yn arw wrtho." Aeth yn mlaen ato, a dywedai mewn tôn ddigllawn a llais awdurdodol, "Os na bydd i chwi gadw eich defaid o'm dolydd i, WILLIAM ELLIS, mi lladdaf hwy bob pen o honynt." Cyfododd WILLIAM ELLISei ben, ac edrychodd yn siriol yn ei wyneb, a dywedodd yn ei dôn arafaidd a heddychol ei hun,
"Yr ydych wedi aros yn dda iawn, Mr. Lloyd bach, cyn dechreu lladd."
Dyna yr holl ffrae drosodd, a dychwelodd y boneddwr at ei gyfeillion â golwg siomedig arno, a dywedai wrthynt, "Dyna y dyn rhyfeddaf a welais erioed: nid oes modd ffraeo gydag ef un amser." Gresyn na byddai mwy yr un fath ag ef.
Nid oedd gwell graen ar berson WILLIAM ELLIS ei hunan—cyn belled ag y mae a fyno gwisgo â pherson dyn. Ni buasai yn gwerthu i hanner ei werth pe buasai yn cael ei brisio wrth ei wisgiad. Byddai yn troi allan y rhan amlaf o lawer heb fod "yn hardd yn ei wisg." Nid ydym yn meddwl iddo erioed newid ffasiwn ei ddillad— o'r hyn lleiaf, yr un fath yr ydym ni yn ei gofio: coat o frethyn cartref, clos pen glin, a het cantal mawr, a hono wedi tolcio ac ymollwng i lawr nes cuddio rhanau o'i wyneb. Nis gwn a oes rhai o'r hetiau hyny ar gael ai peidio; os oes, gallesid yn hawdd eu gwerthu, oblegid y