Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/20

Gwirwyd y dudalen hon

PEN. II.

Ei Dröedigaeth.

Nid oedd WILLIAM ELLIS wedi cael dim manteision crefyddol ar yr aelwyd lle y magwyd ef. Dygwyd ef i fyny yn hollol estronol i foddion gras. Ni byddai byth yn myned i eglwys na chapel, ac yr oedd ei feddwl yn hollol ddieithr i bethau crefydd. Ond pan sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol aeth i hono am ychydig amser, a dyna pryd y dysgodd ddarllen, yr hyn a fu o wasanaeth mawr iddo ar ol hyny. Y mae cyfres o ddigwyddiadau damweiniol, i'n golwg ni, yn gysylltiedig â hanes ei dröedigaeth. Yn gyntaf oll y mae yn gadael cartref, pan ydoedd o gylch ugain oed, ac yn myned i wasanaethu i dyddyn cyfagos. Anfonwyd ef un diwrnod ar neges dros ei feistr i Drawsfynydd; ac erbyn myned yno yr oedd John Elias yn pregethu ganol dydd, ar ei ffordd o Gymdeithasfa Dolgellau, ac yr oedd y gŵr yr anfonwyd WILLIAM ELLIS ato wedi myned i'r oedfa. Wedi deall hyn, meddyliodd y llanc gwyllt am fyned i'r dafarn i aros i'r cyfarfod derfynu ond erbyn iddo edrych nid oedd ganddo arian i'w ganlyn, ac am y dafarn y pryd hwnw, fel yn awr, gellir dywedyd,

Tŷ 'gored i'r teg arian,
Ceidw glo rhag codau glân."

Gan ei bod yn gwlawio yn drwm ar y pryd, yr oedd yn rhaid iddo fyned i rywle oddiar yr heol. Gwnaeth ei feddwl i fyny, ac aeth o dan gapan drws y capel, nid er mwyn clywed y pregethwr, ond er mwyn diogelu ei hun