Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/25

Gwirwyd y dudalen hon

meddwl y buasai yn cael derbyniad, gan mor ddrwg yr oedd yn gweled ei hunau, ac yr oedd yn tybied fod pawb yn synied yn gyffelyb am dano. Digwyddodd daro ar y Parch. Daniel Evans, Harlech, a gofynai iddo," Os na bydd y cyfeillion yn foddlawn i mi ddyfod i'r seiat, gofynwch iddynt a wnant hwy weddïo trosof." Ond er ei fawr syndod, yr oedd y frawdoliaeth yn ymddangos yn hynod barod i roddi deheulaw cymdeithas iddo. Pan y gofynwyd iddo beth oedd wedi tueddu ei feddwl i droi ei wyneb yno, ei atebiad oedd," Yr wyf wedi treio pob man ond yma; ac os rhaid i mi fod yn golledig, ni waeth genyf gael fy ngholli oddiyma nag o rhywle arall." Mor debyg. oedd WILLIAM ELLIS i bawb eraill!—treio pob man cyn troi at yr Iesu. Nis gwyddom ond ychydig am dano yn yr adeg hon; ond gallem feddwl oddiwrth un hanesyn fod ei gymmydogion yn bur bryderus yn ei gylch. Aeth dau o honynt i'w hebrwng adref o'r capel unwaith, ac wedi cyraedd i ymyl y tŷ, dywedai yntau," Gwell i minnau ddyfod i'ch hebrwng chwithau yn ol." Wedi iddynt fyned ychydig oddiwrth y tŷ trodd y ddau i erfyn arno ddychwelyd : ond gan iddynt fethu ei berswadio, ymaflodd y ddau ynddo, gan feddwl ei gipio trwy drais. Pan y gwelodd yntau hyny, cydiodd yn y ddau a gwasgodd hwy at eu gilydd, a thaflodd hwy i lawr, ac nis gallent er pob ymdrech godi i fyny. Daliodd hwy i lawr, hyd nes darfu iddynt gyffesu—yn ol ei gais—mai nid dyna y ffordd i gael ganddo fyned i'w dŷ.

Nid hir y parhaodd i fyned i'r seiat cyn i'w feddwl syrthio i anobaith drachefn. Gadawodd y capel yn llwyr, a chiliodd o bob moddion cyhoeddus, a chwbl gredai mai colledig a fyddai. Ni bu y tywyllwch o gwbl yn fwy nag yn awr; ond tywyllwch ar fin toriad gwawr oedd, i fyned