Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/27

Gwirwyd y dudalen hon

ni ddifethwyd chwi meibion Jacob.' Dyna yr adnodau a'm tynodd i allan. Yr oeddwn yn meddwl nad oedd dim iachawdwriaeth i mi; ond dywedodd Duw wrthyf trwy ei air sanctaidd, nad oedd efe yn meddwl yr un fath ag yr oeddwn i, ac felly mi gredais mai ei feddwl ef oedd fy nghadw byth."

Yr oedd y cyfarfod eglwysig yn digwydd bod y noson hono yn Maentwrog, ac aeth yntau o'r ysgubor i'r capel; a phan ofynwyd iddo paham y daethai yno drachefn, dywedai,— ' ' Fy unig neges yn dod yna heno ydyw dyweyd wrthych y cawn beidio myn'd i uffern eto."

Sylwai awdwr yr ychydig adgofion a gafwyd am dano yn y "Methodist" fel hyn:—

"Bu mesur o bryder ar ei feddwl lawer gwaith ar ol hyn, ond yr oedd cymaint o wahaniaeth rhyngddo a'i bryder blaenorol ag sydd rhwng dydd tywyll du, a nos dywyll gadduglyd. Y mae yr haul uwchlaw y terfyngylch yn y naill—er ei fod dan gymylau—tra y mae yn gwbl islaw iddo yn y llall."

Daeth ato ei hunan, ac er ei fod yn llawn o bethau hynod trwy ei oes, ni byddai byth yn dangos diffyg synwyr; ond profodd yn ei holl ymwneud â'r byd ac a chrefydd ei fod yn feddiannol ar farn, doethineb, a phwyll. Wedi dilyn yr hon bererin fel hyn trwy "gors anobaith," a'i weled yn dyfod allan o'r siglen yr ochr bellaf i'r gors o ddinas distryw, gallwn sylwi ei fod wedi manteisio yn ddirfawr, hyd yn oed ar y cyfyngder enaid hwn yr oedd wedi bod ynddo. Nid ydym yn ammeu nad oedd eangder ei syniadau am drefn yr iachawdwriaeth i'w briodoli i