fesur mawr i'r anobaith dwfn y bu ynddo yn nghychwyniad ei grefydd. Bu yn uffern arno o ran ei deimlad, ond gwaredwyd ef allan ohoni ; bu golledig, ond a gafwyd; a chan iddo ef gael ei waredu, nid oedd yn gweled nad allai pawb gael eu cadw. Cafodd y "penaf o bechadurlaid" wedi ei gadw yn ei berson ei hun; gan hyny yr oedd yn gallu dyweyd yn groew, "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd, i gadw pechaduriaid." Mae rhai hen bobl sydd wedi bod "dan Sinai," a'r taranau a'r mellt, a sain udgom wedi eu dychrynu nes gwneyd iddynt deimlo "mor ofnadwy oedd y lle" yn ammeu crefydd pawb, os na fyddant wedi bod yn nghanol yr un golygfeydd brawychus a hwythau: ond nid oedd WILLIAM ELLIS felly. Cofus genym ei glywed ef yn dyweyd wrth un gŵr ieuangc, pan yn ymddiddan âg ef gyda golwg ar ddechreu pregethu, yr hwn a ofnai ei grefydd am nad oedd wedi teimlo pethau brawychus erioed. "Nid yw dy fod heb deimlo pethau brawychus, machgen i, yn un achos i ti ofni dy grefydd; yr wyt ti wedi bod yn fachgen bucheddol a diddrwg; buasai yn bity garw i Timotheus ddiniwed gael ei drin mor galed ag y triniwyd Saul yr erlidiwr."
Trwy mai John Elias a ddefnyddiodd yr Yspryd Glân i ddychwelyd WILLIAM ELLIS, teimlai barch dwfn iddo, ac edrychai arno bob amser fel angel Duw, ac nis gallai oddef i neb ddyweyd dim yn fach am dano. Galwodd person Maentwrog gydag ef un diwrnod pan oedd yn glaf, ond nid o'r clefyd y bu farw. Ar ryw ymddiddan gofynodd WILLIAM ELLIS iddo a glywsai efe John Elias yn pregethu erioed.
Naddo," ebe y person, yn bur gwta," a buasai yn dda i chwithau pe buasech heb fod yn ei wrando."