enwogrwydd yn mhlith eu brodyr. Y mae ein Cyfundeb wedi arfer rhoddi lle i weithwyr, beth bynag fyddo eu safle o ran eu hamgylchiadau tymmorol. Mae llawer un heblaw WILLIAM ELLIS, er nad oeddynt ond pobl gyffredin, wedi enill iddynt eu hunain radd dda a dylanwad mawr. Yr ydym yn cael ein temtio i enwi amryw o honynt; ond gan nas gallwn osod eu henwau oll i lawr, ymataliwn.
Ymddengys na byddai ein tadau, pan yn dewis blaenoriaid, yn rhoddi nemawr o bwys ar wybodaeth a thalent. Yr hyn yr edrychent hwy am dano fyddai duwioldeb personol a dawn gweddi lled rwydd, ac os caent hyn, pob peth yn dda. Clywsom i frawd gael ei ddewis yn flaenor mewn lle flynyddoedd yn ol, heb fod yn alluog i ddarllen llythyren ar lyfr. Pan ofynwyd iddo a oedd efe yn derbyn galwad yr eglwys, dywedai nad oedd, a hyny am ei fod yn gweled ei hunan yn rhy anghymwys.
"Wel," ebe y gweinidog," os awn i edrych ar gymwysderau, ni bydd i neb o honom gymeryd swydd yn eglwys Dduw, am nad oes neb yn gymwys. Ond a ydyw eich cydwybod yn eich condemnio chwi o ryw beth nad ydym ni yn gwybod am dano? "
"Cael fy hunan yn brin iawn yr ydwyf," ebe yntau, "yn ngwyneb y bennod a ddarllenwyd yn y dechreu."
"Wel prin ydym i gyd," ychwanegai y gweinidog, "ond a ydych chwi yn syrthio yn fyr yn ngwyneb rhyw ddarn mwy na'i gilydd o honi? "
"Ydwyf yn wir," ebe yntau," yn ngwyneb y gair hwnw, ' nid yn wingar.' Pan y cyfarfyddaf fi a rhyw beth croes i fy meddwl, gwingo yn anghyffredin y byddaf."
Yr oedd syniad yr hen sant yn gywir, ac yn dangos