gweinidogion blaenaf, yn y cyfarfodydd mwyaf cyhoeddus. Clywsom iddo wrthod y fraint hon un tro, a phan ofynwyd iddo paham y gomeddodd, cymerodd yntau ei ddameg i'w hateb. ' ' Yr wyf yn byw ar dir boneddiges gyfoethog, a phan y digwydd i mi ei chyfarfod ar y ffordd, dim ond myfi a hithau, byddaf yn sefyll i siarad a hi, a bydd hithau yn dangos pob parodrwydd i wrando arnaf: ond pan y digwyddaf ei chyfarfod â rhyw foneddigion gyda hi, ni byddaf y pryd hwnw ond yn rhoddi bow iddi; ac yr wyf yn meddwl y byddaf yn ei phlesio felly llawn cystal. Felly pan na bydd ond myfi a Nhad nefol gyda'n gilydd, byddwn yn scwrsio gryn lawer; ond y mae yma gryn lawer o foneddigion y nefoedd, ac yr oeddwn yn meddwl na ddigia Efe wrthyf, am i mi beidio a gwneyd dim ond rhoddi bow heddyw."
Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/38
Gwirwyd y dudalen hon