PEN. IV.
Pa le yr oedd cuddiad ei, gryfder?
I. Ei Dduwioldeb.
Dywedasom yn barod nad oedd WILLIAM ELLIS ond dyn o amgylchiadau cyffredin; ac wrth feddwl ei fod wedi enill safle mor uchel yn mysg ei frodyr, y mae yn naturiol' i ni ymofyn pa le trigai ei nerth, a pha le yr oedd cuddiad ei fawr gryfder. Gallwn ddyweyd yn ddibetrus mai prif ffynnonell ei ragoriaethau oeddynt ei dduwioldeb, ei athrylith, a'i fwyneidd-dra; a gallwn trwy amryw hanesion ddangos ei fod yn rhagori yn y pethau hyn. Dechreuwn gyda'i:
DDUWIOLDEB. Nid ydym yn gwybod am neb erioed fyddai yn ammeu crefydd WILLIAM ELLIS. Y mae rhyw rai yn ammeu crefydd pawb o'r bron: ond dyma un hen bererin a gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Yr oedd ei dröedigaeth yn un mor amlwg, ei ymarweddiad mor ddiargyhoedd, a'i brofiadau mor nefol ac ysprydol, fel nad oedd ammheuaeth yn meddwl neb nad oedd efe yn ŵr Duw. Gwyddai beth oedd bod o dan Sinai, a gallai ddyweyd oddiar yr hyn a deimlodd ei hunan, "Mor ofnadwy oedd y lle." Tynwyd sylw ei gymmydogion ato gan gyfyngder ei enaid yn ei argyhoeddiad, ac yn fuan ar ol iddo fyned trwy y porth cyfyng hwnw fe ddechreuodd y rhagoriaethau oedd ynddo ymddadblygu, nes gwneyd i bawb a'i hadwaenai gadw golwg arno a dis-