gwyl llawer oddiwrtho; ac ni siomwyd eu disgwyliadau. Parhaodd i ragori hyd ddiwedd ei oes. Teimlai pawb fyddai wedi bod yn nghwmni WILLIAM ELLIS, Pe na buasai ond am amser byr, fod rhyw arogl sanctaidd wedi ei adael ar eu meddyliau trwy ei ymddyddanion nefol. Yr oedd gwrando arno yn gweddïo yn ddigon o brawf ei fod yn dal cymmundeb agos â'r Goruchaf. Efallai fod y teimlad a deflir gan rai i'w gweddïau yn un o'r arwyddion diogelaf o ansawdd grefyddol y galon. Byddai y fath eneiniad ar ei weddïau mewn cyfarfodydd cyhoeddus ag oedd yn dwyn ynddynt eu hunain y sicrwydd cadarnaf ei fod yn arfer myned i'w ystafell i weddïo ar ei Dad yr hwn a wêl yn y dirgel. Yr oedd ganddo lawer Bethel; ac nid y leiaf o honynt oedd hen waggon a ddefnyddiai i gludo llechau o Ffestiniog. Llawer gwaith y gwelwyd ef, fel Elias, a'i wyneb rhwng ei liniau, yn gweddïo, gan adael i'r ceffylau gymeryd eu hamser; a byddai y rhai oedd yn deall beth fyddai yn myned ymlaen yno, yn dra awyddus am geisio dynesu yn llechwraidd, fel y gallent ei glywed yn ymbil â Duw drosto ei hun a'i gymmydogion. Yr oedd pawb yn hoffi ei glywed ef yn gweddïo bob amser. Os digwyddai iddo fod gyda rhai o'i gyfeillion ddechreunos—yr hyn ddigwyddai yn fynych—byddai yn rhaid iddo ef offeiriadu y noson hono. Ni adawai efo i bellder y ffordd, na'r ystyriaeth ei bod yn hwyrhau a'r dydd yn darfod, effeithio dim arno, ond cymerai hamdden i fyned trwy y gwasanaeth fel Pe buasai ar ei aelwyd ei hunan. Mae yn gofus genym ei gyfarfod unwaith mewn ffermdy 'o gylch saith milldir o'i gartref, ac ar ol swper estynwyd y Beibl iddo, darllenodd yntau a gweddïodd fel pe buasai yn dechreu oedfa. Wedi ymddyddan ychydig â'r teulu, dywedai," Mae yn bryd i mi gychwyn bellach, ne' mi
Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/40
Gwirwyd y dudalen hon