fyddan' yn anesmwyth am danaf gartref." Yr oedd y fath hynodrwydd ynddo fel gweddïwr, fel y byddai raid iddo ddechreu yr oedfa o flaen y pregethwyr mwyaf poblogaidd fyddai yn dyfod i'r ardaloedd hyny; a byddai y diweddar Barchedig John Jones, Tal-y-sarn, yn arfer dyweyd, na byddai ganddo ef ddim diolch i allu pregethu ond iddo gael WILLIAM ELLIS i ddechreu yr oedfa. Wrth ofyn am bresenoldeb yr Arglwydd, dywedai,
"Os na chawn olwg ar dy wynebpryd, gâd i ni gael gweled rhyw gŵr o honot; dangos dy glun, neu rhywle i ni."
Gofynai cyfaill iddo beth oedd yn ei feddwl wrth ddymuniad felly. "O," ebe yntau," y mae yn cario ei gleddyf ar ei glun, a phan y mae y gelyn yn gweled hwnw y mae yn ymostwng yn y fan."
Dro arall dywedai," Dadguddia dy drysorau i ni yn awr, ni welodd neb ben draw dy shop di." Wrth ofyn am faddeuant dywedai," Maddeu Arglwydd, y mae arnom fwy o ofn ein pechodau nac uffern ei hunan." Tro arall wrth gydnabod daioni yr Arglwydd yn rhoddi cymaint o drugareddau i ni, dywedai," Does yn uffern ddim newid seigiau. Maent yn gorfod byw yno ar ddigofaint digymysg: dyna oedd yno neithiwr, dyna oedd yno boreu heddyw, a digofaint sydd yn cael ei barotoi at heno eto." Yna diolchai yn gynes nad oedd efe a'r gynnulleidfa yn y wlad lle nad oedd newid seigiau ynddi. De fyddai taerineb a difrifwch, amrywiaeth a phriodoldeb, ei weddïau, yn synu pawb fyddai yn cael y fantais o'i glywed; ac yr oeddynt mor llawn o feddwl ag oeddynt o ddefosiwn. Yr oedd ganddo brofion sicr iddo gael ei wrando lawer gwaith; adroddwn ddau hanesyn i ddangos hyn. Bu am