dymmor, pan yn ddyn lled ieuangc, yn arfer myn'd i Loegr gyda gwartheg; a phan oedd yn Llundain daeth galwad ato un boreu i fyned i'r maes at yr anifeiliaid cyn iddo gael ei foreufwyd. Cadwyd ef yn y maes am oriau, dechreuodd deimlo chwant bwyd, ond nid oedd yn gweled un ffordd i gael myned i'r ddinas i brynu dim. Aeth ei angen mor fawr fel yr ymneillduodd at fonyn coeden oedd ar ganol y cae, i ofyn i'r Arglwydd am ei fara beunyddiol. Pan oedd yn gweddïo gwelai ddyn yn dyfod i'r maes, a'i neges ydoedd, gorchymyn symud y gwartheg i faes arall; a chan y cymerai hyn lawer o amser, aeth yn fwy annhebyg iddo nag o'r blaen i gael dychwelyd i'w lety. Wrth fyned o'r naill faes i'r llall, yr oedd ganddynt briffordd i'w chroesi; a phan oedd WILLIAM ELLIS yn croesi daeth cerbyd a dau geffyl yn ei dynu heibio, a safodd ar ei gyfer ef. Gwelai ffenestr y cerbyd yn agor, a boneddiges yn estyn rhywbeth iddo ; ymaflodd yntau ynddo o'i llaw, a gwnaeth ymgrymiad diolchgar am dano, er na wyddai ar y pryd pa beth ydoedd. Aeth y cerbyd i'w ffordd, agorodd yntau y parcel, a beth oedd yno ond fowl wedi ei goginio yn y ffordd oreu.
Mae yr hanesyn uchod yn ffaith, ond rhodded y darllenydd yr esponiad a fyno arno. Gallom feddwl na byddai yn orchest fawr i'r rhai hyny sydd yn credu i'r gigfran gael ei hanfon i borthi Elias, gredu hefyd ddarfod i'r foneddigos hono gael ei hanfon i borthi WILLIAM ELLIS. Yr hanesyn arall ydyw, am wraig gyfrifol oedd yn byw mewn cymmydogaeth arall, o gylch chwe milidir o'i gartref, yr hon oedd wedi ei chymeryd yn glaf, ac wedi syrthio i radd o iselder meddwl, ac yn petruso yn fawr am ddiogelwch ei chyflwr. Yr oedd WTLLIAM ELLIS yn ei hadnabod hi a'r teulu yn dda, a byddai yn gweddïo