Yr oedd ei dduwioldeb yn dyfod i'r golwg yn amlwg yn y cyfarfodydd eglwysig. Adwaenai y bywyd ysprydol yn mhob ffurf arno, a gwyddai yn dda pa un ai llaeth ai bwyd cryf i'w roddi at y rhai fyddai yn dyweyd eu profiadau ar y pryd. Pan y byddai yn cael fod yr eglwys yn uchel o ran ei phrofîad, cymerai fantais y pryd hwnw i draethu ar burdeb a sancteiddrwydd Duw, a dangosai fel yr oedd Efe yn casáu twyll, celwydd, a rhagrith; a byddai pawb wrth wrando arno yn troi i'w fynwes ei hun gan weddïo gyda'r Salmydd, "Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau; a gwel a oes ffordd annuwiol genyf, a thywys fi yn y ffordd dragywyddol." A phan feddyliai fod teimlad yr eglwys yn isel, ymdrechai y pryd hwnw i'w chysuro trwy ddangos y gallasai fod yn llawer gwaeth arnynt. Gofynai," Nid aeth neb oddiyma i'r carchar y flwyddyn hon, ai do? Ni chrogwyd neb oddiyma, ai do?" Fel hyn byddai yn mesur y da wrth ei well, a'r drwg wrth ei waeth.
Yr oedd ei ofal yn fawr am ieuengtyd yr eglwys. Cadwai ei lygaid arnynt yn mhob man. Yr oedd un ferch ieuangc berthynol i'r eglwys wedi myned i Gymdeithasfa Pwllheli, a silk hat ganddi am ei phen—yr oedd hyn pan oedd ladies' silk hats yn dechreu dyfod i'r ffasiwn. Ofnai WILLIAM ELLIS ei bod yn myned yn falch, a gofynodd iddi pan ddychwelodd yn ol, a oedd hi wedi cael rhywbeth yn y Gymanfa. Atebai hithau ei bod yn ofni nad oedd." Wel," ebe yntau," mi ge'st gyfleusdra da iawn i ddangos dy het newydd. Cofia di," ychwanegai, "nad yw yn ddim byd i mi i ti fod yn falch. Rhaid i ti settlo yr holl bethau yna â'r Brenin Mawr." Dychrynodd yr eneth gymaint fel y gwerthodd y silk hat, a bu yn hir heb allu meddwl am brynu un yn ei lle.