Hysbysodd merch ieuangc arall ef ei bod yn bwriadu myn'd i Loegr i wasanaethu, a rhyw brydnawn aeth WILLIAM ELLIS yn un pwrpas i'w chartref i ddanfon ei thocyn eglwysig. Yr oedd ganddo dros bedair milldir o ffordd, a chyn dychwelyd, gweddïodd gyda hi a'r teulu oll; ac er fod dros ugain mlynedd er hyny, y mae y cynghorion da a'r weddi ddifrifol yn aros yn fresh ar ei meddwl hyd heddyw.
Yr oedd ei gydymdeimlad yn fawr â'r weinidogaeth, ac â gweinidogion yr efengyl. Medrai feirniadu; ac yr oedd taflod ei enau yn deall cam flas. Dywedai un tro ar ol bod yn gwrando ar ŵr dysgedig a phoblogaidd yn pregethu," Mae yn burion peth i'r wlad gael pregeth fel yna, rhag iddynt feddwl nad oes genym ni—y Methodistiaid yma—ddim gwŷr dysgedig yn bregethwyr: ond dyn a'i helpo," meddai am y pregethwr, "fe gollodd yr eneiniad wrth fod yn rhy ddysgedig, ond waeth be' fo, fe faddeua ei Dad nefol iddo am ryw dro fel yna." Yr oedd yn hawdd gwrando ar WILLIAM ELLIS yn beirniadu, gan y gwyddai pawb y byddai yn gweddïo llawer dros y pregethwyr, yn enwedig pregethwyr ieuaingc. Dywedai wrth un pan yn gwrando arno yn pregethu ei bregeth gyntaf," Yr oeddwn yn gweddïo fy ngoreu drosot, ac yn gofyn i'r Arglwydd roddi tipyn o gymhorth i ti heno, Pe na byddai heb roddi dim byth i ti ar ol heno." Byddai yn myfyrio llawer ar y byd ysprydol a'i breswylwyr. Soniai am yr angylion da a drwg fel pe buasent ei gymmydogion agosaf. Rhoddai rhai yn ei erbyn ei fod yn oforgoelus, gan y byddai yn rhoddi coel ar freuddwydion, ymddangosiad ysprydion, a gweinidogaeth angylion. Dywedai wrth bregethwr unwaith, pan yn ymddiddan ar hyn, "Y mae yr angylion yn ymladd llawer drosom i