Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/48

Gwirwyd y dudalen hon

II. EI ATHRYLITH.

DYWEDASON yn barod fod duwioldeb WILLIAM ELLIS, uwchlaw ammheuaeth y rhai mwyaf anystyriol a drwgdybus; a bellach ni a symudwn yn mlaen i ddangos y byddai ei athrylith yn disgleirio fel ag i'w wneyd yn wrthddrych sylw ac edmygedd pawb a'i hadwaonai bob amser. Wrth i ni adgofio llawer o'i sylwadau cynhwysfawr, yr ydym yn gweled dau beth yn dyfod i'r golwg ynddynt, sef eangder diderfyn ei olygiadau ar drefn yr efengyl, a gwreiddioldeb y dull y byddai yn rhoddi ei syniadau allan. Taflai yn fynych feddyliau newyddion i'r golwg nes trydanu pawb fyddai yn ei wrando, a phryd arall gwisgai hen wirioneddau mewn ffurf newydd, a byddai y rhai a edrychent arnynt yn barod i ddyweyd, "na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn." Wedi iddo gael fod digon yn iachawdwrineth Duw i ddiwallu angen ei ennid ef, credai byth wed'yn fod digon ynddi ar gyfer pawb. Bu yn gobeithio un adeg ar ei oes yr adferid y cythreuliaid, a gweddïodd lawer drostynt. Cofus genym i ni ofyn iddo unwaith, a hyny yn lled agos i ddiwedd ei oes, a oedd efe yn parhau i weddïo dros y cythreulisid? a'i ateb ydoedd, "Wel, nac ydwyf wir, y tro diweddaf y bum ar fy ngliniau yn eu hachos daeth y gair hwnw i fy meddwl, Canys ni chymerodd Efe naturiaeth angylion.' Mid'w'llodd yn arw iawn arnaf yn eu hachos, ac nis gallais ofyn am ddim ar eu rhan byth mwy." Ond er iddo gael ei ddigaloni trwy ddyfodiad sydyn y gair hwnw i'w feddwl, ymlithrai rhyw ymadroddion yn awr ac yn y man oedd yn dangos fod ynddo