Cyfarfod Misol at yr eglwysi, ar adeg pur wasgedig ar y wlad, i'w hanog yn ddifrifol i beidio a rhedeg i ddyled mewn adeg o'r fath, a thrwy hyny arwain oeu hunain ac eraill i brofedigaeth, a rhoddi lle i elynion yr Arglwydd gablu, pryd y gwnaeth WILLIAM ELLIS y sylw yma: "Mae perygl i rai mewn amgylchiadau cyfyng ymollwng a myned yn ddiofal gyda'u dyledswyddau. Fe aeth y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged un diwrnod at Pedr, i chwilio am y dreth drosto ef a'i Athraw: ond nid oedd gan yr un o'r ddau ddim i'w thalu. Ac mifum i yn meddwl fod Pedr wedi gofyn i'w Athraw, pa beth a wnaent? A fyddai yn well iddo fyned at rai o'u cyfeillion i ofyn benthyg? O na,' abe yntau, dos i'r môr, a bwrw fach. Dos di at dy alwedigaeth, ac wrth i ti wneyd dy ddyledswydd mi goi di fodd i dalu y dreth drosof fi a thithau. Felly, ond i ninnau wneyd ein dyledswyddau ar adeg fel hyn, fe ofala ein Tad nefol am i ni gael tipyn o geiniog at gyfarfod ein gofynion."
Yr oeddynt yn ymdrin yn Nghyfarfod Misol y Bala unwaith ar "Faddeuant," a gofynwyd i WILLIAM ELLIS ddyweyd gair. Cododd ar ei draed, a throdd at y pregethwyr a dywedodd yn awdurdodol wrthynt, am iddynt gymeryd gofal rhag dyweyd fod Duw yn maddeu pechodau: "Ni faddeuodd Duw bechod erioed, ac ni faddeua bechod byth." Yna eisteddodd i lawr, a bu distawrwydd. am beth amser. Ond torwyd ar y distawrwydd trwy i'r cadeirydd ddyweyd, "Wel, mae yr athrawiaeth yna yn un pur newydd, dylech egluro beth ydych yn ei foddwl WILLIAM ELLIS." Cododd yntau eilwaith, ac ychwanegai, "Fod eu gwaith yn pregethu parodrwydd Duw i faddau, yn gwneyd i rai dynion bechu yn fwy hyf a digywilydd.