Am fod Duw wedi cospi pochod ar ei Fab yr oedd yn gallu peidio cospi y pechadur; bod eisiau dangos llwybr gwaedlyd maddeuant bob amser wrth son am dano, onide byddai yr athrawiaeth yn ei gylch yn achles i bechod yn lle bod yn wenwyn iddo."
Byddai ganddo ffordd pur effeithiol i roddi terfyn ar ymrysonau a dadleuon, fyddai yn cymeryd lle yn mhlith y brodyr. Daeth cais un tro i Gyfarfod Misol Abermaw, am gasgliad cyffredinol tuag at ryw achos cyhoeddus, ond yr oedd y rhan fwyaf o'r blaenoriaid yn erbyn iddo gael ei roddi ger bron y cynnulleidfaoedd. Wedi llawer o siarad, cododd WILLIAM ELLIS i fyny a dywedodd, "Mae holl gybyddion y sir yma heddyw, ac am y bobol sydd gartref, y maent hwy yn siwr o wneyd casgliad da at yr achos, ond iddynt gael clywed am dano." Wedi y sylw hwn gostegwyd y cythrwfl, a phonderfynwyd cyflwyno yr achos i'r cynnulleidfaoedd gael dangos pa fodd yr oeddynt. yn teimlo tuag ato.
Yr oedd WILLIAM ELLIS wedi clywed un diwrnod fod rhyw fath o arddangosfa—show—i ddyfod i Faentwrog, a byddai llawer o ddyweyd yn erbyn myned i'r cyfryw leoedd yn y dyddiau hyny, am y byddent yn achosi llawer o lygredigaeth. Ond fe gymorodd WILLIAN ELLIS ddull newydd i fyned yn ei herbyn, fe'i cyhoeddodd, ar nos Sabbath, fel y pethau eraill oodd i fod yr wythnos hono. Fel hyn, "Cyfarfod Gweddi nos Lun, Seiat nos Fercher, a show yn Maentwrog prydnawn dydd Gwener: cyfarfod yn perthyn i'r deyrnas arall ydyw hwnw hefyd; ond y mae yn deg i chwi wybod am dano, gael i bawb sydd yn perthyn i deyrnas y tywyllwch ymdrechu i fyned yno, ac mi fyddwn ninnau yn rhywle yn edrych pwy fydd y rhai hyny." Dywedir na wnaeth neb erioed gymaint o ddrwg