achos yr Arglwydd. Owen Thomas, Bethesda, oedd un o'r rhai hyny. Cynysgaeddwyd ef a doniau naturiol helaeth, a byddai rhyw eneiniad ar ei bethau, yn enwedig ei weddïau, bob amser. Byddai ganddo gynghorion priodol ar bob achos, a rhoddai y rhai hyny gada'r fath addfwynder ag oedd yn sicrhau lle iddynt yn mynwes yr un y cyfeirid hwy ato. Dywedai wrth bregethwr ieuanc unwaith am beidio a rhoddi llawer o benau yn ei bregethau, am y rheswm nad oedd ond ychydig o gig ar ben. Robert Williams, Pen-y-bryn, hefyd, oedd yn gyd flaenor ag ef, am yr hwn y dywedai Mr. Humphreys ei bod yn lwc fawr ei fod yn digwydd bod yn lled agos i'w le, am y rheswm ei fod yn anodd ei symud. Diweddodd ei oes yn America. John Price, Tan-y-grisiau, hefyd, oedd yn ŵr o ddylanwad yn ei gymdogaeth, nid ar gyfrif helaethrwydd ei ddoniau, ond ar gyfrif yr argyhoeddiad dwfn oedd wedi ei gario i fynwesau pawb a'i hadwaenai, ei fod yn ŵr cywir, gonest, ac yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd. Aeth un o aelodau yr eglwys ato unwaith, pan wedi ei dramgwyddo, i ofyn am docyn ymadawol i fyned i eglwys arall. Ond yn lle rhoddi ei gais iddo, dywedodd John Price wrtho, dan wylo, "Mae yn rhaid i ti adael llonydd i mi, a pheidio ä'm poeni fel hyn, mae achos yr Arglwydd yn agos at fy nghalon i, sut bynag yr wyt ti yn teimlo." Bu geiriau a dagrau yr ben sant yn drech na phenderfyniad yr aelod hwnw, a dywedai, dan sychu ei lygaid wrtho, na
Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/6
Gwirwyd y dudalen hon