ieuangc a berthynai i eglwys Maentwrog wedi bod gyda rhyw grwydriaid a gymerant arnynt ddywedyd eu tesni. Aeth yntau atynt a gofynodd a wnant hwy alw yn ei dŷ, fod ganddo rywbeth o bwys i'w ddyweyd wrthynt. Addawsent hwythau fyned, os caent genad gan eu meistr. (Y pethau gwirion! nid oeddynt fawr feddwl beth oedd yn eu haros.) Dywedodd yntau y gofynai efe ei hunan am ganiatad iddynt, a chafodd hyny. Ac ar ryw brydnawn hwy a aethant yn ol eu haddewid. Anfonodd yntau bawb o'r teulu allan at ryw oruchwylion, ac wedi cau y drws ymaflodd yn y Beibl, a darllenodd bennod yn nghylch dewiniaid, a brudwyr; yna aeth i weddi daer dros y tair chwaer ieuangc oedd wedi troseddu, wedi hyny rhoddodd bennill i ganu. Ond nid oedd yn cael ei foddloni yn yr olwg arnynt, gan eu bod yn ymylu ar fod yn wamal. Cymerodd y Beibl a darllenodd bennod eilwaith, a gweddïodd drostynt drachefn, a pharhaodd i weddïo nes iddo ddeall ei fod wedi eu llwyr orchfygu, ac erbyn iddo godi oddiar ei liniau yr oedd golwg gyffrous arnynt. Wedi iddynt ganu hymn, gollyngodd hwynt ymaith heb son yr un gair wrthynt am eu trosedd. Beth a ddywedi di, ddarllenydd, am y dull hwn o weinyddu cerydd, cymeryd y trosoddwyr at y "gyfraith ac at y dystiolaeth," a'u cario mewn gweddi i bresenoldeb y Duw mawr; a'r cwbl mewn yspryd mor hynaws, fel yr oedd yn gallu canu yn addolgar yr un pryd? Hawild genym gredu y buasai yn llawer gwell gan y chwiorydd hyn, a gymerwyd yn y fath fodd i bresenoldeb yr Anfeidrol, ymfoddloni i ddigwyddiadau a helyntion y dyfodol tywyll ddyfod i'w golwg o un i un, fel y byddai i amser eu cario, na cheisio ymwthio i'w cyfarfod trwy gynnorthwy y rhai a gymerent arnynt ddywedyd tesni.