Yr oedd ei dynerwch y fath fel na allai oddef i ddim gael ei benderfynu yn ei eglwys gartref, y Cyfarfod Misol, nac mewn unrhyw le, a thuedd ynddo i archolli teimlad neb. Cofus genym i gyhoeddiad y diweddar Barchedig John Jones, Talysarn, a brawd arall nad oedd mor gymeradwy, gael eu darllen mewn Cyfarfod Misol unwaith, nid i ddyfod gyda'u gilydd, ond ar wahan; ac wodi ei darllen, gofynodd rhyw un a oedd cyhoeddiad y brawd arall wedi dyfod yn rheolaidd. Wrth ei gweled yn tywyllu ar ei achos, cododd WILLIAM ELLIS i fynu a gofynodd, "A ydyw cyhoeddiad John Jones yn rheolaidd? mi fyddai yn burion peth i ni wybod hyny?" Gwyddai WILLIAM ELLIS fod cyhoeddiad y ddau wedi dyfod yn yr un modd, ac er mwyn cael John Jones, gollyngwyd y llall heibio hefyd.
Dro arall yr oedd brawd ieuangc o bregethwr, ac y bu ganddo ef law yn ei godi, wedi troseddu y deddfau trwy fyned ar daith i sir arall, cyn iddo fyned trwy ei sefyllfa prawf fel pregethwr gartref. Pan y daeth yn ol, galwyd ef i gyfrif yn y Cyfarfod Misol, ond nid oedd ganddo un gair i'w ddyweyd dros ei ymddygiad; ac wrth weled rhai o'r hen frodyr yn bwrw arno, cododd WILLIAM ELLIS i fynu. ac agorodd ei enau dros y mud, a dywedai yn bur ddiniwed, "Fe ddaeth y brawd ataf fi un diwrnod, a dywedai ei fod yn myned i'r fan a'r fan, yn y sir hono, i edrych am ryw berthynasau iddo, a beth ddarfu i mi ond ei anog i ddyweyd tipyn am Iesu Grist ar hyd y ffordd," ac ychwanegai, "ni feddyliais i erioed fod drwg," a thrwy ei fedrusrwydd ef i roddi gwedd mor grefyddol ar yr afreoleidd-dra, fe ollyngwyd y troseddwr yn rhydd heb na charchariad na hard labour.
Byddai rhai yn cymeryd mantais annheg weithiau, ar