Tudalen:Yr Hynod William Ellis Maentwrog.djvu/68

Gwirwyd y dudalen hon

cyfleusdra oedd wedi ei gael i ddyweyd gair wrth y boneddwr annystyriol, ar gadwraeth y Sabbath; ac ar yr un pryd gadw ar dir heddychol a'i feistr tir, ac a'i gydwybod ei hunan hefyd.

Yr oedd ganddo y teimladau gorau at y gwahanol enwadau oedd yn yr un gymydogaeth ag ef, ac yr oedd yn anhawdd iddo beidio bod felly, pan y cofiom fod tri enwad yn cyd-gyfarfod yn ei dy ef ei hunan, yn mhersonau ei chwiorydd ac yntau. Dyna y rheswm penaf na buasai gan y Methodistiaid Calfinaidd gapel yn mbentref Maentwrog, ddeng mlynedd ar hugain yn gynt. Buasai yn hawdd i WILLIAM ELLIS gael tir i adeiladu un arno, ond nid oedd yn gofalu llawer am hyn, gan fod digon o le yn y capelau oodd yno yn barod. Ni byddai byth yn caru gweled rhai yn rhedeg oddiwrth y naill enwad at y llall, a hyny am y gwyddai fod naw o bob deg o'r cyfryw symudiadau yn digwydd, nid oherwydd fod cyfnewidiad yn eu barn am athrawiaethau yr efengyl, ond yn hytrach i osgoi ceryddon eglwysig am ryw droseddau fyddai wedi eu cyflawni. Cofus genym glywed am ryw ddau blentyn oedd yn cydchwareu unwaith, ac fe ddigwyddodd i un o'r ddau syrthio i'r llaid, ac yna dechreuodd grio, a chrio yr oedd o. Yna gofynodd ei gydymaith ieuangc iddo, "Beth yr wyt ti yn crio, dywed?" "Ond ofn fy mam sydd. arnaf," ebe y llall. "Oes gen ti ddim nain dywed?" gofynai ei gydchwareuwr. Mae yn ymddangos fod hwn wedi cael ty nain yn lloches da rhag dialodd y fam. Felly yr oedd WILLIAM ELLIS wedi sylwi y byddai llawer fyddai yn troseddu yn erbyn eu mam eglwys yn chwilio am dŷ nain yn rhywle i ochelyd y cerydd. Ac yn wir fe fu un yn ddigon gonest i ddyweyd, pan yn chwilio am aelodaeth gyd ag enwad arall, mai y gair hwnw oedd ar