yn adeg y cynhauaf gwair, ac fe welai WILLIAM ELLIS yn gweithio yn bur brysur; aeth ato, a dywedodd wrtho,—
"Os ewch chwi i'r capel, mi arosaf fi i weithio yn eich lle; mi 'newch chwi ryw les yno." Derbyniodd yntau y cynyg hwn, ac ymaflodd yn ei coat, a chylymodd ei llewis o dan ei ên, ac i'r capel ag ef. Ond erbyn iddo gyrhaedd yno yr oedd y seiat ar derfynu. Gan iddo ddyfod i mewn, gofynai ei gyd—swyddog, mewn tôn oedd yn ymylu ar fod yn sarug, "A oes genych chwi air i'w ddyweyd WILLIAM ELLIS, ne' mae hi yn bryd terfynu?" "Nac oes dim byd heno frodyr bach," ebe yntau; ac ychwanegai, "dyfod yma yn lle Richard Llwyd ddarfu mi heno, mae yntau yn y gwair yn fy lle inau. Mae yn dda iawn gen i eich gwel'd ch'i, fe allai na chaf fi glywed neb byth eto yn son am Iesu Grist." Ond torodd y blaenor arall ar ei draws, a dywedodd, "Ewch dipyn i weddi WILLIAM ELLIS heb ganu, yr ydym ni yma er's hir amser bellach."
"Gawn ni ddim canu!!" ebe yntau, dan godi ar ei draed, a rhoddi allan yr hon bennill hwnw yn dra offeithiol—
"Mi gana am waed yr Oen
Er maint i'w 'mhoen a 'mla"."
A dywedai y rhai oedd yn bresenol na bu yno ddim byd tebyg i waith WILLIAM ELLIS yn ledio y pennill yn y seiat y noson hono.
Os byddai iddo daro ar bregethwr wrth ei fodd i ymddiddan âg ef, ni byddai iddo byth bron fyned o dŷ y capel, ac yn wir fe fyddai y pregethwyr yn anfoddlawn iawn i'w ollwng ymaith. Arosodd yn nhŷ capel Maen-