twrog un noswaith hyd yn agos i unarddeg o'r gloch; ac ar yr awr hwyrol hono dyma fe yn dyweyd wrth wraig y tŷ, "Wel, mae yn bryd i minau fyn'd bellach, mae arnaf eisiau myned i edrych am ryw frawd claf i Ffestiniog." "Hono, WILLIAM ELLIS," ebe y wraig, "mae wedi myned yn hwyr iawn."
"O na," ebe yntau, "mae'n rhaid i mi fyn'd, yr wyf wedi addaw fowl iddo at ei ginio yfory."
Ar hyny aeth ymaith tua Brontyrnor, ac erbyn cyrhaedd yno yr oedd pawb yn eu gwelyau; galwai yntau ar ei chwaer,
"Begi, p'le mae y ceiliog bach?"
"Both wnai di a fo heno, Wil, dos i dy wely bellach," ebe hithau.
"Na," abe yntau, "mae yn rhaid i mi ei gael, yr wyf wedi addaw iyn'd ag ef i Mr. W—— Ffestiniog," pellder o gylch tair milldir. Daliodd y ceiliog bach, ac aeth ag ef ymaith; erbyn cyrhaedd y tŷ hwnw, yr oedd pawb yn dawel yn mreichiau cwsg, ond galwodd hwy i fynu, a chyflwynodd yr anrheg i'r claf, ac yna dychwelodd yn ol tua thre'. Y rheswm dros ei fod wedi gwneuthur y fath ymdrech ydoedd ei fod wedi addaw myned ag ef y diwrnod hwnw, ac yr oedd WILLIAM ELLIS yn meddwl ond iddo fyned cyn cysgu ei hunan, y byddai yn cadw ei addewid beth bynag fyddai hi o'r gloch.
Byddai ganddo resymau hynod iawn dros fod gymaint ar ol yn myned i'r capel: weithiau dywedai fod y ffordd yn mhell, heb gofio fod yr un pellder bob amser rhwng y tŷ a'r capel; pryd arall dywedai fod y clock yn slow iawn; a phan y gofynid iddo paham na wnai ei yru, dywedai, "Natur colli sydd ynddo, pe bawn yn ei yru, byddai yn yr