Yr oedd yr hen gaethwas Elihu yn haeddu'i fflangellu am ddwyn y storïau hyn i lawr o'r Gogledd.
"Nid wyf yn gofyn llawer cymwynas gennyt, Othniel, ond gwyddost nad oes arnaf eisiau clywed sôn am y terfysgwr hwn."
"Addewais na chrybwyllwn ei enw eto wrthych, 'Nhad, ond y mae'n rhaid imi, y mae'n rhaid imi."
"Y mae'n rhaid i minnau gychwyn i'r synagog," meddai Joseff, gan droi'n benderfynol tua'r drws. "Nhad!"
Yr oedd taerineb y llais bron â bod yn orchymyn chwyrn. Edrychodd Joseff yn syn ar ei fab. Un addfwyn iawn oedd Othniel, dwys a breuddwydiol bob amser, heb fod byth yn cythruddo. Beth yn y byd a oedd arno heddiw?
"Wel?"
"Yn ôl eich dymuniad, peidiais â sôn am y Nasaread hwn wrthych. Ond er nad oedd ei enw ar fy nhafod, yr oedd ef a'i wyrthiau yn fy meddwl."
"Hy! Gwyrthiau, wir!"
"Breuddwydiwn amdano ef a'i ddisgyblion . . ."
"Criw o weilch heb ddim gwell i'w wneud na chreu cynnwrf hyd y wlad."
"Breuddwydiwn amdano ef a'i ddisgyblion yn dod yma i Arimathea, yn dringo'r bryn tuag at y tŷ, a minnau'n cael fy nghludo ato gan yr hen Elihu a Simeon.
"I'th wella, y mae'n debyg!" meddai Joseff yn ysgornllyd. "Ie, i'm gwella ganddo, 'Nhad," atebodd ei fab yn dawel, "ac yna i wrando ar ei efengyl."
"Ac wedyn buasai mab y Cynghorwr Joseff o Arimathea yn mynd gydag ef hyd y wlad i'w ddangos ei hun fel anifail mewn sioe, fel enghraifft o allu'r swynwr o Galilea."
"Yn fy mreuddwydion," meddai Othniel, heb gymryd sylw o'r dirmyg hwn, "gwelwn ei wyneb hardd a'i lygaid tawel, eofn. Yr un wyneb a welwn bob tro, a gwenai'n garedig arnaf, gan fy mendithio a'm hannog i fod yn ddewr. Ond neithiwr mewn breuddwyd—na, y mae'n rhaid i chwi wrando, 'Nhad—neithiwr mewn breuddwyd. . .
"Gwelaist y Nasaread hwn yn codi'i law a'r Archoffeiriad a'r Sanhedrin yn gwrando ar bob gair o'i eiddo ac yn ymgrymu o'i flaen." Yr oedd Joseff yn dechrau colli'i dymer.