"Rhaid, Syr." A nodiodd yn araf a dwys wrth droi'n ôl at y groes.
Gododd y carcharor ei ben yn awr, gan edrych i fyny i dywyllwch y nef. Yr oedd rhyw oleuni yn ei wedd, fel un a wyddai iddo ennill brwydr fawr. Dywedodd rywbeth, eto yn ei iaith ei hun, ac yna gŵyrodd ei ben gan lefaru un gair yn dawel, fel anadliad o ryddhad.
Safai Marcus yn berffaith lonydd, fel petai wedi'i wreiddio yn y graig oddi tano.
"Marcus?"
Troes yr hen filwr yn freuddwydiol a cherddodd araf at y canwriad. Safodd, ond anghofiodd saliwtio.
"Syr, yr oedd hwn . . . Ond ni allai ddweud ychwaneg.
"Oedd," meddai Longinus yn ddwys, "yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn."
Prin yr oedd y geiriau o'i enau pan ysgydwodd daeargryn y ddaear ac y cododd ei farch ar ei bedrain mewn dychryn. Gerllaw, rhusiodd ceffyl y Canwriad Sextus, gan daflu'i feistr meddw yn swp i'r llawr. Gwaeddodd amryw o'r milwyr mewn braw, a chlywid twrf ofnus llu o bobl o gyfeiriad y ffordd a Phorth Effraim. Wedi i'w farch lonyddu, edrychodd Longinus yn bryderus tua'r ddinas, gan ofni gweld drwy'r gwyll fod cromen y Deml a thyrau Antonia hefyd yn sarn. Ond safent yn awr yn eu holl wychder, heb dywyllwch trostynt mwyach. Ciliai'r caddug mor gyflym ag y daethai, a gwelai'r canwriad yr wynebau llwyd a syn o'i gwmpas.
Syrthiasai tawelwch hyd yn oed dros filwyr swnllyd y Canwriad Sextus. Gwenai rhai ohonynt wrth wylio ymdrechion eu meistr i godi ar ei draed, ond edrychai'r lleill ar ei gilydd yn syn, a braw diddeall yn eu hwynebau. Gwelai Longinus fod ei dri milwr ef yn sefyll ar eu darn o graig ac yn syllu tua'r groes ganol. Camodd Fflaminius ymlaen tuag ato, ac yna arhosodd i daro blaen ei waywffon wrth ei dalcen mewn saliwt. Gwnaeth yr hen Farcus hefyd yr un peth.
"Y dewraf a welais i erioed, Syr," meddai wrth Longinus, fel petai'n ymddiheuro am ei weithred. "Y dewraf un.'
"Yr oedd rhywbeth mwy na dewrder yma, Marcus," sylwodd y canwriad yn dawel.