"Y mae arnaf eisiau siarad â thi, Beniwda," meddai wrtho. "Awn am dro bach i'r berllan."
"O'r gorau, 'Nhad. Ond peidiwch â swnio fel petai hi'n ddiwedd y byd."
Safodd y ddau o dan hen olewydden yng nghanol y berllan.
"Wel?" meddai Joseff.
"Wel beth, 'Nhad?"
"A ydyw'r hyn a glywais yn wir?"
Chwarddodd Beniwda i guddio'i euogrwydd. "Nid hawdd yw ateb y cwestiwn yna, 'Nhad! Os dywedwch beth a glywsoch . . . "
"A wyt ti'n aelod o Blaid Ryddid?"
Wynebodd Joseff ei fab a syllodd yn syth i'w lygaid. Gwyddai nad oedd angen iddo ofyn ychwaneg.
"Pwy a fu'n cario'r stori hon i chwi? Yr Hen Geg, ie? Gwelais chwi'n dringo'r allt gydag ef."
"Nid yw hynny o wahaniaeth. Ateb fy nghwestiwn i."
"Chwilio am storïau felly y mae'r hen Joctan o fore tan nos."
"Ateb fy nghwestiwn i. A wyt ti'n cyboli â dihirod y Blaid?"
Dihirod? Rhuthrodd gwrid i wyneb Beniwda a thân i'w lygaid.
"Ydwyf, yr wyf yn un o'r dihirod," meddai'n herfeiddiol, "os dihirod yw rhai sy'n caru'u gwlad ac yn ceisio'i hachub rhag y gorthrymwr. Ydwyf, yr wyf yn perthyn i'r Blaid! Ac yn falch o'r anrhydedd."
Edrychodd Joseff ar fon a brigau cnotiog yr hen olewydden fel gŵr mewn breuddwyd. Beniwda, ei fab ei hun, yn aelod o Blaid Ryddid! Bob tro y daethai un o'r Blaid o flaen y Sanhedrin yn Jerwsalem, pleidleisiodd ef dros ei gondemnio a'i gyflwyno i'r Rhufeinwyr i'w groeshoelio ganddynt.
"Yr oeddwn i yn y Sanhedrin yr wythnos ddiwethaf," meddai'n dawel. "A chondemniwyd tri ohonynt gennym.'
"Do, mi wn. Gestas a Dysmas a Barabbas."
"Gwyddost beth fydd eu tynged. Yn arbennig Barabbas. Fe laddodd ef filwr Rhufeinig mewn ysgarmes wrth y Deml." "Fe'u croeshoelir. Oni allwn wneud rhywbeth i'w hachub." "Gwneud beth?"