"Ond y mae Beniwda'n cael mynd o gwmpas y wlad i gasglu archebion ac arian am y gwin. Nid wyf yn eich deall, Esther."
"Yr ydych yn fy neall yn iawn, Joseff. Nid Arimathea yw'r lle i fachgen mentrus fel Beniwda."
"O? P'le, ynteu?"
"Prynasoch dir yn Jerwsalem i godi tŷ arno.
Y mae yn agos i dair blynedd er hynny, onid oes? A chredem i gyd y byddem yn byw yn Jerwsalem ymhell cyn hyn. Ond hyd y gwn i, nid oes carreg wedi'i gosod arno."
"Wel. . . y. . . yma yn Arimathea y mae'r ystad, a . . . "
"A Reuben y goruchwyliwr yn gofalu amdani. Esgus sâl, Joseff. Ac ar wahân i gysur Rwth a Beniwda a minnau, y mae rheswm arall dros i chwi godi'r tŷ."
"O?"
"Oes. Y Sanhedrin. Edrychwch gymaint o'r cyfarfodydd yr ydych yn eu colli. A phaham? Am y teimlwch y daith yn bell. Ac os caf fi siarad yn blaen, Joseff . . ."
"Ie, Esther?"
"Y mae'n bryd i chwi fod yn rhywun yn y Sanhedrin. Ac ni ellwch chwi fod yn rhywun yn y Cyngor heb fynd i bob cwrdd â chodi'ch llais yn amlach yno. Pwy a ŵyr, efallai mai chwi fydd yr Archoffeiriad nesaf! Ond nid wrth aros yma ym mherfedd y wlad fel hyn y dewch yn bwysig yn y Sanhedrin. A byddai Beniwda a Rwth yn cael cyfle yn Jerwsalem."
"Cyfle i beth, Esther?"
"I fod yn rhywun, debyg iawn. Pwy mae Rwth yn gyfarfod yma yn Arimathea?"
"Wel . . . y . . .
"Neb. Clywais chwi'n ei beio am dalu cymaint o sylw i'r Canwriad Longinus. Petaem ni wedi symud i Jerwsalem ni fuasai hi wedi cyfarfod y Rhufeinwr o gwbl, ac efallai mai ag un o feibion yr Archoffeiriad y buasai hi'n gyfeillgar erbyn hyn. A dyna Beniwda. Gweithio yn y gwinllannoedd a thrafaelio i werthu gwin! Petai yntau yn Jerwsalem, buasai'n astudio yn y Coleg yno ac yn..
"Ond ni ddangosodd Beniwda fod ganddo ddiddordeb mewn astudio, Esther."
"Wyddoch chwi ddim sut y datblygai'r bachgen yn yr awyrgylch iawn. I beth yr oeddych chwi eisiau prynu'r tir yn Jerwsalem oni fwriadech adeiladu arno?"