"Iesu o Nasareth yng Ngalilea," atebodd hwnnw, ac yna aeth ati i weiddi "Hosanna!" nerth ei ben.
Iesu o Nasareth? Hwn oedd y Proffwyd y soniai Othniel gymaint amdano ac y danfonasai Alys i Jerwsalem i ymbil ag ef. Syllodd Longinus yn eiddgar arno fel y nesâi, gan ryfeddu ei fod mor ifanc. Rhywfodd, er iddo fod yn sicr i Othniel sôn am ddyn ifanc, tynasai Longinus ddarlun o ŵr llawer hŷn â'i farf hirllaes yn dechrau gwynnu a rhychau oed yn ei wyneb. Ond rhyw ddeg ar hugain neu ychydig yn fwy oedd hwn ac nid edrychai fel proffwyd o gwbl. Disgwyliech i broffwyd fod yn—wel, yn wahanol i bawb arall, beth bynnag, heb ddim ond darn o groen am ei lwynau efallai, neu â'i wallt yn hir fel un merch, neu â darluniau rhai o'r duwiau ar ei gorff. Cofiodd Longinus mai ymhlith yr Iddewon yr oedd ac nad oedd ond un Duw, Iafe, ganddynt hwy.
O amgylch y Proffwyd cerddai rhyw ddwsin o wŷr pur wladaidd yr olwg, rhai wrth eu bodd ac yn gyffro i gyd, eraill yn syn ac ansicr eu trem. Sylwodd Longinus ar y gwylltaf ohonynt, dyn ifanc tenau a hirwallt a'i lygaid yn dân.
Ef a dywysai'r asyn, a chamai'n herfeiddiol fel concwerwr wedi brwydr hir. Nid felly yr ymddangosai'r Proffwyd: edrychai ef braidd yn drist a thosturiol, gan syllu'n ddwys ond gofidus tua'r Deml fawr o'i flaen. Nid oedd fel petai'n clywed y llefau a'r llafar-ganu nac yn sylwi ar y rhuthro a'r chwifio gwyllt o'i amgylch. Yn wir, yr oedd fel breuddwydiwr yn nhawelwch ei fyfyrion a'r holl ddwndwr hwn yn ddim ond tonnau rhyw ffolineb pell. Pam, ynteu, y marchogai fel hyn i'r ddinas, gan roddi cyfle i'r holl rialtwch? Ni wyddai Longinus, ond dywedai wynebau syn rhai o'i ddisgyblion mai rhywbeth sydyn ac annisgwyl oedd yr orymdaith hon. Y pererinion, efallai, a aethai i'w gyfarfod ac a fynnodd roddi llais i'w heiddgarwch. Ac unwaith y cydiodd y tân, ymledodd fel fflamau ar lethr grin.
Disgynasai'r Proffwyd oddi ar yr asyn yn awr, a cherddodd ef a rhai o'i ddisgyblion trwy'r porth i mewn i Gyntedd y Deml. Daliai'r bobl i weiddi ac i chwifio'u cangau, ond swnient yn llawer tawelach, ac edrychai amryw ohonynt yn siomedig. Cyn hir dychwelodd y Nasaread a'i wŷr o'r Cyntedd a throi ymaith yn dawel ar hyd heol arall a redai i lawr tua Dyffryn Cidron a ffordd Bethania. Cafodd Long-