Ceisiai Joseff swnio'n ddifater, gan wybod bod yr hen Joctan yn bur eiddigus o'i safle fel aelod o'r Sanhedrin, prif Gyngor y wlad.
"Wel, braf yw'ch byd chwi, wir, braf yw'ch byd chwi . . . O, Joseff?"
"Ie, Joctan?"
"Mi gofiais i enw'r saer hwnnw. Neithiwr yn fy ngwely. Methu cysgu. Rhyw hen wayw yn fy nghoesau i.
"Saer?"
"Ie, y dyn a wnaeth y dysglau pren hynny."
Cofiodd Joseff iddo edmygu pentwr o lestri pren yn nhŷ Joctan. Prynasai'r hen frawd hwy gan ryw saer yn Jerwsalem.
"Heman—dyna'i enw, Heman y Saer. Y mae'n byw yn ymyl y Deml."
"Yn Ophel?"
"Nage, yn Seion, heb fod ymhell o'r Bont."
Rhan orllewinol Jerwsalem oedd Seion, a'r Bont oedd honno a groesai tros Geunant Tyropoen i'r Deml.
"Y mae'r dyn yn cael gwaith rheolaidd yn y Deml," chwanegodd Joctan. "Y mae'n grefftwr da."
"Ydyw, a barnu oddi wrth y dysglau 'na. Ni welais i eu gwell erioed, Joctan."
"Ydynt, y maent yn rhai da," cytunodd yr hen gybydd braidd yn anfoddog. "Ond drud, Joseff, drud."
Ni ddywedodd Joseff ddim: petai Joctan yn cael ugain ohonynt am ffyrling, y mae'n debyg y gwelai hwy'n ddrud.
"Wel, caf eich gweld yn y synagog, Joseff—os medraf gyrraedd yno cyn nos, onid e?"
Ymlwybrodd yr hen frawd i lawr y ffordd, gan anadlu ac ocheneidio'n uchel i brofi unwaith eto nad oedd synnwyr mewn codi synagog mor bell oddi wrth ei dŷ ef.
Troes Joseff yn ôl drwy'r berllan. Yn y tŷ, aeth yn syth i ystafell ei fab hynaf, Othniel. Yr oedd ef yn glaf o'r parlys ac yn methu â cherdded, ond gwnaethai saer y pentref gadair arbennig iddo a chludai'r gweision ef ynddi i'r synagog bron bob Sabath. Ond heddiw eisteddai ar ei sedd uchel wrth y tipyn ffenestr, heb arwydd y bwriadai fynd i'r gwasanaeth.
"Bore da, Othniel."
"Bore da, 'Nhad."
"A wyt ti am ddod i'r synagog, 'machgen i?"