"Cael fy achub o'r môr, Syr. Y llong yn suddo mewn ystorm. Boddwyd fy nhad a'm mam."
"Hm. Felly! Felly'n wir!" Yr oedd llais Abinoam yn dosturiol. "Ac y mae'r Cynghorwr a'i deulu'n garedig wrthych?"
"Yn hynod felly, Syr."
"Ydynt, y mae'n amlwg, yn gadael i chwi ddod am dro i Jerwsalem fel hyn. A fuoch chwi'n gweld y Deml?"
"Naddo, ddim eto, Syr. Yr oeddwn i wedi meddwl cael mynd bore ddoe, ond clywais fod rhyw helynt yno."
"Helynt? O, y Nasaread? Fe wnaeth yn iawn â hwy. A gobeithio y bydd yn troi byrddau meibion yr hen Falachi heddiw eto.'
"Y Proffwyd o Nasareth, Syr?"
"Ie. Clywais ei fod i fyny yno y bore 'ma eto. Hy, hy, hy, fe wnaeth yn iawn â'r gweilch. Twyllwyr digydwybod, bob un ohonynt. . . Wel, bendith arnoch chwi, 'merch i."
"Diolch, Syr."
Wedi i Abinoam honcian heibio iddi, gan duchan fel petai'n llusgo darn o'r tŷ o'i ôl, cerddodd Alys yn gyflym tuag ystafell Esther. Y bore 'ma, y bore 'ma amdani, meddai wrthi ei hun. Curodd ar y drws yn frysiog, gan anghofio am ennyd mai caethferch ydoedd.
"Ie?" Llais ei meistres.
"Alys sydd yma, Ma'm. A gaf fi eich gweld am ennyd?"
"Dewch i mewn, Alys."
Agorodd y Roeges y drws a gwelai Esther yn eistedd ar bentwr o glustogau, a Rwth yn trin gwallt ei mam, gan ei lunio i'r ffasiwn diweddaraf a welsai yn Jerwsalem y diwrnod cynt.
"Sut y mae'n edrych yn awr, Rwth?"
"O, y mae'n eich siwtio chwi'n wych, 'Mam. Yr ydych ddeng mlynedd yn ieuangach. Ydych, wir."
"Meistres?" mentrodd Alys.
"Tyrd â'r drych 'na imi, Rwth."
"Meistres?" meddai Alys eilwaith.
"Diolch, Rwth." Cymerodd Esther y drych a chwarddodd yn hapus wrth edrych ar ei llun ynddo. "Wel, wir, ni fydd dy dad yn f'adnabod i pan ddaw i mewn! A fydd yn ei hoffi, tybed? Efallai mai'n ddig y bydd."