Tudalen:Yr Ogof.pdf/102

Gwirwyd y dudalen hon

"Meistres?"

"Ie, Alys?"

"Yr oedd un o'r morwynion yn dweud bod amryw o Athen i fyny yn y Deml bore 'ma. Hoffwn gael mynd yno i'w gweld, rhag ofn fy mod yn adnabod rhai ohonynt."

"Sut yr ydych chwi'n licio fy ngwallt i, Alys?"

"Y mae'n hardd iawn, Meistres. Dywedai'r forwyn fod..

"Ond ydyw'n lovely? Y ffasiwn ddiweddaraf, wyddoch chwi. Rwth a'i gwelodd ddoe yn nhŷ un o'i ffrindiau. Ym mhlas yr Archoffeiriad. Fel hyn y mae gwraig yr Archoffeiriad Caiaffas yn gwisgo'i gwallt yn awr.

Nid yw'n fy ngwneud yn rhy ifanc, gobeithio, Rwth?"

"O, nac ydyw, 'Mam. Y mae'n eich siwtio i'r dim. Y mae'n lovely."

"Ni wna'r tro imi edrych yn rhy ifanc, gan fod dy dad wedi gwynnu cymaint yn ddiweddar. Neu fe gredai pobl iddo briodi eto!

"Neu mai ei ferch . . ."

"Dywedai'r forwyn, Meistres . . ."

"Morwyn? Pa forwyn?"

"Un o forwynion y gwesty, Ma'm. Dywedai fod y Groegiaid sydd yn y Deml yn edrych yn wŷr ysgolheigaidd iawn. Efallai fod rhai o gyfeillion fy nhad yn eu plith."

"Efallai, wir. Rhedwch i fyny yno, rhag ofn, Alys beidiwch â bod yn hir. Rhyw awr . . . Wel, wir, a beth ddywed Beniwda, tybed, Rwth?"

"Diolch yn fawr, Meistres."

Ond ni wrandawai Esther: ei llun yn y drych oedd ei hunig ddiddordeb.

Brysiodd Alys o'r gwesty a thrwy'r tyrfaoedd a lanwai'r ystrydoedd sythion. Croesodd y bont enfawr tros Ddyffryn Tyropoeon, ond nid arhosodd i syllu i lawr ar y bobl a ymddangosai fel morgrug hyd yr heolydd ymhell islaw. I mewn â hi drwy'r porth ysblennydd i Gyntedd y Cenhedloedd, y cwrt eang, swnllyd, a redai o amgylch y Deml Er gwaethaf ei brys a'i heiddgarwch am weld y Nasaread, arafwyd camau Alys gan ei syndod pan gyrhaeddodd y clawstyr rhyfeddol a ymestynnai ar hyd holl ochr ddeau'r Cyntedd. Ni wyddai y gallai dwylo dynion adeiladu'r fath firagl o le na chodi'r fath gewri o golofnau marmor. Gellid rhoi dwsin o demlau