Tudalen:Yr Ogof.pdf/103

Gwirwyd y dudalen hon

mwyaf Athen i mewn yn hwn, meddyliodd, fel y syllai ar y toeau uchel o goed cedr. O uchelder aruthr un o'i dyrau y gwyliai offeiriaid bob bore am lewych cyntaf y wawr cyn seinio'u hutgyrn arian. Teimlai Alys yn fychan ac yn unig iawn.

Tynnai pob sandal a phob llais eco o furiau a cholofnau'r clawstyr, gan bwysleisio pob ennyd o dawelwch llwyr, ond tu allan iddo yn y Cyntedd ei hun, yr oedd fel petai dadwrdd holl ffeiriau'r byd wedi'i grynhoi i un man. Brefau anifeiliaid, cŵyn colomennod, crochlefain gwerthwyr, lleisiau chwyrn cyfnewidwyr arian, dadlau a chlebran mewn llawer iaith yr oedd marchnad fwyaf Athen yn dawel wrth y lle hwn. Tybiai Alys fod nid cannoedd ond miloedd o bererinion ynddo, a chofiai iddi glywed bod y Deml oll yn dal ymhell dros ddau can mil o bobl.

Aeth ymlaen tua'r grisiau marmor a ddringai i'r Deml, ond rhyngddi a hwy yr oedd mur isel. Wrth bob adwy ynddo yr oedd y rhybudd llym:

NA FYDDED I UN ESTRON FYNED I MEWN
I'R CAEADLE O AMGYLCH Y LLE SANGTAIDD.
PWY BYNNAG A DDELIR YN GWNEUTHUR HYNNY,
EF EI HUN FYDD YR ACHOS I ANGAU EI ODDIWES.

Ni châi Alys fynd gam ymhellach, felly. Safodd yn drist, a'i llaw ar farmor oer y mur, gan wylio'r lluoedd a frysiai drwy'r adwyau. Clywodd y gair "Nasareth" a dilynodd â'i llygaid y gŵr a'i dywedodd. Gwelai ef a'i gydymaith yn cyrraedd y Rhodfa lydan islaw rhes arall o risiau ac yna'n troi i'r chwith i ymuno â thyrfa a wrandawai ar rywun yn llefaru wrthynt. Y Proffwyd. Ie, meddai'i chalon yn wyllt wrthi, ie, y Proffwyd o Nasareth a ddysgai'r bobl hyn. Yr oedd mor agos—ac eto mor bell.

Yn sydyn gwelodd Beniwda'n dyfod i lawr y grisiau tuag ati. Symudodd i ffwrdd rhag iddo'i chanfod, gan lechu tu ôl i dwr o bererinion cyffrous a oedd newydd weld ei gilydd am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd. Wedi iddo fynd o'r golwg, dychwelodd at yr adwy yn y mur. ANGAU? meddai wrth lythrennau aur yr hysbysiad.

Pa wahaniaeth? Yr oedd yn werth marw i gyrraedd y Proffwyd.