Tudalen:Yr Ogof.pdf/104

Gwirwyd y dudalen hon

Tynnodd ei phenwisg yn is tros ei thalcen, a phan aeth bagad o bobl drwy'r adwy dilynodd hwy, gan gadw'i phen i lawr. Troes hithau i'r chwith pan gyrhaeddodd y Rhodfa, a brysiodd i ymuno â'r dyrfa a wrandawai ar y Proffwyd. Yn ffodus iddi, yr oedd nifer mawr o wragedd yn eu plith ac felly ni thynnai sylw.

Na, nid y gŵr o Nasareth oedd hwn yr oedd hwn yn rhy ifanc i fod yn Broffwyd ac i wneud rhyfeddodau fel y rhai y soniai Elihu ac Othniel amdanynt. Ac eto, er ei fod yn ifanc—tua'r un oed ag Othniel, efallai—llefarai fel un ag awdurdod ganddo. Ni ddeallai Alys ei eiriau, gan mai yn iaith yr Iddewon y siaradai, ond gwyliai'n awchus bob mynegiant ar ei wyneb a phob ystum a wnâi â'i ddwylo. Ac ymhlith y dyrfa yr oedd amryw o ddeillion a chloffion a rhai cleifion a gludwyd yno gan gyfeillion. Ie, y Proffwyd o Nasareth a oedd o'i blaen wedi'r cwbl, a mynnai gael gair ag ef.

Ond, a hithau heb hawl i fod ar y Rhodfa, ni fentrai ymwthio ymlaen drwy'r dorf i ymbil arno. Pe gwyddai rhai o'r Iddewon hyn mai Groeges ydoedd hi, galwent blismyn y Deml i'w dal a'i lladd. "Ymhen awr," oedd gorchymyn ei meistres, ac aethai hanner yr awr honno heibio'n barod. Pe byddai ganddi ddigon o amser i aros fel rhai o'r cleifion hyn ar fin y dorf, gallai ddilyn y Proffwyd pan adawai'r Deml, ac erfyn ar ei ddisgyblion ei dwyn hi ato. Ond os digwyddai ei meistres chwilio amdani a chael ei bod hi heb ddychwelyd, fe wylltiai a . . . a phenderfynu ei chynnig i'r hen Joctan efallai.

Clywodd law yn cydio yn ei braich.

"Elihu!"

Ni ddywedodd yr hen gaethwas air, dim ond ei harwain ymaith i fin y Rhodfa. Yr oedd dychryn yn ei lygaid.

"Nid oes gennych hawl i fod yma, Alys. A wyddoch chwi'r penyd am ddod ymhellach na Chyntedd y Cenhedloedd?"

"Gwn. Cael fy lladd."

"Ie. Rhaid i chwi fynd oddi yma ar unwaith. Dewch. "Dof i lawr gyda chwi."

"Nid cyn imi gael gweld y Proffwyd, Elihu."

"Dewch. Dacw ddau o blismyn y Deml yn dod i lawr o Gyntedd y Gwragedd. Dewch, brysiwch."

Gafaelodd eto yn ei braich a'i thynnu ymaith. Ond safodd Alys ac ymryddhau.