Tudalen:Yr Ogof.pdf/105

Gwirwyd y dudalen hon

"Yr wyf am weld y Proffwyd, Elihu, penyd neu beidio. Efallai mai hwn yw'r unig gyfle a gaf."

Er gwaethaf ei fraw, gwenodd yr hen gaethwas arni. Yr oedd hi'n ddewr iawn.

"Nid oes obaith i chwi ei weld yn awr, Alys. Y mae tyrfa o'i amgylch a llawer o Phariseaid a Sadwceaid yn gofyn cwestiynau iddo. Yn ceisio'i faglu ef. He, ac yn methu bob cynnig!"

Cadwai Elihu ei lygaid ar y ddau blisman fel y siaradai. Croesent y Rhodfa yn awr a chychwyn i lawr y grisiau i Gyntedd y Cenhedloedd. Pwyntiodd yntau i fyny tua'r Deml er mwyn i Alys droi'i chefn arnynt. Dringai'r grisiau llydain uwchlaw iddynt at fur Cyntedd y Gwragedd, ac yn y mur yr oedd pedwar porth a phres pob clwyd yn loyw yn yr haul. O Gyntedd y Gwragedd wedyn dringai grisiau i Gyntedd Israel a Chyntedd yr Offeiriaid, ac oddi yno eto risiau ysblennydd at furiau claerwyn y Deml ei hun. Ac yn goron ar y cwbl disgleiriai aur y gromen enfawr uwchben.

Ond am ei neges y meddyliai Alys.

"Beth a wnaf fi, Elihu? Y mae'n rhaid imi gael ei weld." "Dim gobaith y bore 'ma, y mae arnaf ofn, Alys. Ond efallai . . .

"Ie, Elihu?"

"Efallai y medraf gael gafael ar rai o'i ddisgyblion. Ond 'chewch chwi ddim aros i fyny yma. Os ewch chwi i lawr i'r clawstyr acw ac eistedd ar un o'r meinciau yno, gwnaf fy ngorau glas i ddod ag un neu ddau o'i ddisgyblion atoch. Y munud yma amdani, cyn i'r plismyn 'ma ddychwelyd.'

"O'r gorau, Elihu."

Aeth Alys i lawr y grisiau a thrwy dryblith y Cyntedd i eistedd ar fainc yn y clawstyr. Gerllaw iddi, wrth y Porth, dolefai degau o gardotwyr, pob un yn swnio fel petai ar drengi. Ac wrth wrando arnynt, rhyfeddodd mor ddewr oedd Othniel, mor dawel a di-gwyn y dioddefai, gan geisio anghofio drwy ddarllen a myfyrio a gweu breuddwydion. O na lwyddai hi yn ei chais!

Cyn hir, gwelai'r hen Elihu ar y grisiau a chydag ef ddau ŵr ifanc tebyg iawn i'w gilydd, ond bod un dipyn yn hŷn na'r llall. Dau frawd efallai, meddyliodd hi. Yr oedd tafod a dwylo'r hen gaethwas wrthi'n egluro pethau'n huawdl iddynt.