Tudalen:Yr Ogof.pdf/107

Gwirwyd y dudalen hon

Edrychodd Ioan ar ei frawd heb wybod beth i'w ddweud wrth y ferch: anodd oedd peidio ag ildio i'r taerineb hwn.

"Fe fydd y Meistr yma dros yr Ŵyl," meddai ymhen ennyd. "Byddwn yn bwyta'r Pasg gyda'n gilydd yn rhywle yn y ddinas. Ymh'le, ni wn. Ond cyn inni gychwyn yn ôl i Galilea . . . '

"Ie, Syr?" Daliai Alys i afael yn ei fraich ac edrychai'n eiddgar i fyny i'w wyneb.

"Daw un ohonom i'r gwesty lle'r arhoswch . . . "

"Gwesty Abinoam yn Heol y Pobydd, Syr."

"Daw un ohonom yno a chewch wybod ymh'le y bydd y Meistr.'

"O, diolch, Syr." Cronnai dagrau llawenydd yn llygaid Alys.

"Ond nid wyf yn meddwl y daw i Arimathea. Y mae'r ffordd yn bell a'r wlad honno'n ddieithr iddo. 'Wn i ddim." Gwenodd Ioan ar ei frawd wrth chwanegu, "Gwna'r Meistr ei feddwl i fyny yn o sydyn weithiau . . . Bendith arnoch chwi, Alys."

"Ac arnoch chwithau, Syr."

"Byddwn yn sicr o siarad amdanoch wrth y Meistr. Ac os bydd modd yn y byd, trefnwn i chwi ei weld."

"O diolch, Syr, diolch o galon i chwi."

Yr oedd Alys yn hapus iawn fel y brysiai o'r Deml a thros Bont y Tyropoeon ac i lawr i'r ddinas.

Draw yn Arimathea, ar ei sedd wrth y ffenestr, ceisiai Othniel weu cerdd am y Meseia, Achubydd y genedl, Eneiniedig Duw, y Crist. Ni hoffai'i dad, fe wyddai, iddo ganu ar destun felly, ond byth er pan soniodd Elihu am y saer o Nasareth, gan siarad amdano fel Meseia, deuai i'w feddwl lawer proffwydoliaeth am Waredwr Israel. Gwenodd wrth gofio am y syniadau cyffredin amdano fel rhyw Dywysog o linach Dafydd a ddifethai holl elynion a gormeswyr ei genedl ac a deyrnasai'n Frenin nerthol yn Jerwsalem. "Efe a ymwregysa," meddai un broffwydoliaeth a glywid yn aml, "ac a ddisgyn ac a orchymyn frwydr yn erbyn ei elynion ac a ladd eu brenhinoedd a'u capteniaid: ni fydd un yn ddigon nerthol i'w wrthsefyll ef. Gwna ef y mynyddoedd yn goch gan waed ei elynion: ei wisg, wedi'i lliwio â'u gwaed hwy, a